Arolwg o Denantiaid a Thrigolion (STAR)
Cynnwys
Bob blwyddyn, mae ein trigolion yn cael cyfle i roi adborth i ni drwy Arolwg o Foddhad Tenantiaid a Thrigolion (STAR), sef arolwg cydnabyddedig sy’n cael ei ddefnyddio ledled Cymru a Lloegr gan ddarparwyr tai, i ganfod yr hyn y mae trigolion yn ei feddwl am y gwasanaethau yr ydym yn eu cynnig.
Rydym yn defnyddio cwmni annibynnol i gasglu'r holl ymatebion gan drigolion. Mae'n gwbl ddienw ac ni allwn weld ymatebion unigol os nad ydych am i ni wneud hynny. Os ydych chi am gynnig eich sylwadau yna gallwch roi tic yn y blwch ar ddiwedd yr arolwg a gallwn ni ddod yn ôl atoch chi. Mae'r holl wybodaeth a gesglir yn cael ei thrin yn ddiogel ac yn unol â Deddf Diogelu Data 1998.
Isod, mae canlyniadau ein harolwg STAR diweddaraf:
Canlyniadau 2021–22
Y gwasanaeth a ddarperir gan Melin – 85.3% yn fodlon
Ansawdd eu cartref yn gyffredinol – 84.8% yn fodlon
Eu cymdogaeth fel lle i fyw – 80.9% yn fodlon
Mae eu rhent yn rhoi gwerth am arian – 82.9% yn fodlon
Mae eu taliadau am wasanaeth yn rhoi gwerth am arian – 60.8% yn fodlon
Y ffordd yr ydym yn delio ag atgyweiriadau a chynnal a chadw – 80.9% yn fodlon
Rydym yn gwrando ar eu safbwyntiau ac yn gweithredu – 67.7% yn fodlon
Dogfennau eraill
ae yna hefyd nifer o ddogfennau sy’n dangos sut yr ydym yn perfformio. Mae’r adborth yr ydym yn ei dderbyn yn ein tywys o ran sut i wella ein gwasanaeth. Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach am ein perfformiad neu sylwadau ar sut y gallwn wella, cysylltwch â ni.