Cynaliadwyedd a gwneud ein rhan
Rydym wedi ymrwymo i wneud ein rhan dros y blaned - ein tîm, ein trigolion, ein cymunedau a’n partneriaid yr ydym yn gweithio gyda nhw. Rhaid i bob un ohonom wneud ein rhan i amddiffyn yr hyn rydyn ni'n ei garu rhag yr argyfyngau hinsawdd a natur.
Dyma rai o'r ffyrdd yr ydym yn ceisio creu newid cadarnhaol:
Cymunedau cynaliadwy
- Rydym yn rhan o gonsortiwm cymdeithas dai a fydd yn gweithio ochr yn ochr â Housing Justice Cymru i drawsnewid hen dir yr eglwys yn dai rhent fforddiadwy, newydd.
- Rydym yn cyflwyno ein rhaglen FACE am ddim gydag ysgolion sy’n bartneriaid gan ganolbwyntio ar ddisgyblion; eu dyfodol, eu cadw’n actif, a’u helpu gyda’u cyfleoedd gyrfa a’r amgylchedd.
- Rydym yn buddsoddi arian o'n Cronfa Cymunedau Cynaliadwy yn ardaloedd ein Hawdurdod Lleol gan alluogi ein trigolion, ac ysgolion i wneud eu rhan dros newid yn yr hinsawdd.
- Mae ein tîm cyflogaeth ymroddedig yn helpu ein trigolion i ddatblygu eu sgiliau a dychwelyd i fyd gwaith.
- Rydym yn cefnogi prosiectau garddio i drigolion, gan helpu i greu hafan i wenyn a phryfed sy’n peillio, a rhoi help llaw i fyd natur.
- Rydym yn cefnogi Cynulliad Newid Hinsawdd Cyntaf Cymru gyda Chyngor Blaenau Gwent.
- Rydym yn aelod o Llythrennedd Carbon Cartrefi Cymru (CLCC), sef consortiwm o 27 o landlordiaid cymdeithasol cofrestredig Cymreig, sydd wedi cronni eu harian a’u hadnoddau i gynyddu llythrennedd carbon yn eu sefydliadau.
- Rydym yn rhoi cyngor a chefnogaeth ar ynni am ddim i'n trigolion.
- Mae ein cronfa Jump2 yn golygu y gall grwpiau cymunedol lleol wneud cais am grantiau ar gyfer prosiectau a gweithgareddau sydd o fudd i drigolion, eu teuluoedd a chymunedau.
- Mae gennym elusen y flwyddyn yr ydym yn codi arian ar ei chyfer ac yn ei chefnogi. Ein helusen ar gyfer 2021/22 yw Ambiwlans Awyr Cymru.
- Rydym yn cefnogi ac yn hyrwyddo cynlluniau teithio llesol yn ein cymunedau.
Cartrefi cynaliadwy
- Rydym yn datgarboneiddio ein stoc dai bresennol; gan ddechrau gydag arolygon a gosod Systemau Ynni Deallus.
- Rydym wedi ymrwymo i adeiladu cartrefi cynaliadwy, carbon isel a fforddiadwy sy'n diwallu anghenion cenedlaethau yn awr ac yn y dyfodol yn ein cymunedau lleol presennol, gydag uchelgais i ddileu carbon erbyn 2030.
- Rydym yn diwallu’r angen am dai lleol er nad ydym yn ychwanegu at yr argyfwng newid hinsawdd, a hynny drwy fod yn hyblyg, gan addasu i anghenion newidiol ein trigolion. Bydd hyn yn ymgorffori Dulliau Modern o Adeiladu yn ein hymgyrch i ddatblygu cartrefi deniadol, carbon isel sy’n effeithlon i’w cynnal.
- Rydym yn rhan o Raglen Llywodraeth Cymru i Ôl-osod Er Mwyn Optimeiddio.
Melin Cynaliadwy
- Mae gennym gynllun tair blynedd (2021–2023) i ddatgarboneiddio ein fflyd o 60 o gerbydau trwy eu newid i gerbydau trydan. Rydym wedi gosod pwyntiau gwefru trydan y tu allan i’n swyddfeydd, i’w defnyddio gan staff a phartneriaid.
- Rydym yn defnyddio ynni adnewyddadwy ar gyfer ein swyddfeydd a’n cynlluniau Byw'n Annibynnol, ynghyd â phaneli solar yn ein prif swyddfa.
- Rydym yn ailgylchu ffurfwisgoedd y rheini sy’n gadael, drwy eu rhwygo a’u troi’n ddefnydd inswleiddio ar gyfer cartrefi.
- Rydym yn cefnogi’r elusen leol Stump Up for Trees yn rhan o fenter ‘Diolch’ misol ein sefydliad, fel y gall aelodau staff ddiolch i eraill sydd wedi mynd y tu hwnt i’r hyn sy’n ofynnol ohonynt. Fel rhan o’r wobr, gall staff ddewis coeden i’w phlannu yn eu henw.
- Mae ein llaeth yn cael ei ddosbarthu i ni o fan lleol, a hynny mewn poteli gwydr sy’n cael eu hailddefnyddio dro ar ôl tro.
- Rydym yn hoff iawn o greision yma ym Melin, felly rydym yn sicrhau bod yr holl becynnau gwag, yn ogystal ag eitemau plastig a thuniau, yn cael eu hailgylchu.
- Mae gennym bolisi gweithio hyblyg – sy'n golygu y gall staff weithio o ble maen nhw eisiau, i arbed allyriadau CO2.
- Rydym yn hyrwyddo Zest – ein menter iechyd a llesiant i staff.
- Mae ein staff yn derbyn poteli dŵr a mygiau teithio y gallant eu hailddefnyddio.
- Rydym yn gyflogwr Cyflog Byw.
- Mae ein datganiad Caethwasiaeth Fodern a Masnachu Pobl yn cael ei adolygu bob blwyddyn i adlewyrchu'r gwaith parhaus sy'n cael ei wneud, a’n hymrwymiad i atal caethwasiaeth a masnachu pobl ymhlith yr holl weithgareddau busnes a’n cadwyni cyflenwi.
- Rydym yn aelod o Cynnal Cymru, elusen flaenllaw sy’n galluogi gweithredu tuag at gymdeithas deg a chyfiawn, economi carbon isel ac amgylchedd naturiol llewyrchus.
- Rydym wedi rhoi ein llais i Climate Cymru.
- Rydym wedi ymrwymo i god ymarfer 'Cyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi' Llywodraeth Cymru.
Astudiaethau achos
Ein nod yn yr adran hon, yw datblygu detholiad cynyddol o astudiaethau achos cyhoeddedig, y gellir gweld y cyntaf ohonynt isod:
Gwella effeithlonrwydd ynni cartrefi ar stad Coed Lee
Mae gennym wyth eiddo ar stad Coed Lee, a’r nod oedd gwella effeithlonrwydd ynni yn y cartrefi, gan ddefnyddio paneli solar ffotofoltaig ac inswleiddio waliau allanol.