Uno: Cwestiynau Cyffredin
Cynnwys
Rydym yn ysgrifennu at ein holl breswylwyr i roi gwybod iddynt sut y gallant ddweud eu dweud ar gynlluniau arfaethedig i uno, a sut maen nhw'n meddwl y gallai'r sefydliad newydd edrych. Rydym yn gwerthfawrogi y gall fod gan bobl gwestiynau pellach, felly rydym wedi ceisio ateb rhai ohonynt yma yn yr adran Cwestiynau Cyffredin.
Os oes gennych gwestiwn am yr uno, nad yw'n cael ei ateb yma, e-bostiwch hello.comms@melinhomes.co.uk
Cwestiynau cyffredinol am yr uno
- Pam ydych chi’n uno?
Mae cymdeithasau tai o dan bwysau cynyddol i wneud mwy, yn aml gyda llai. Heriau fel chwyddiant cynyddol, cynnydd mewn pris deunyddiau, yr argyfwng costau byw a mwy o ddeddfwriaeth sy'n dod â chyfrifoldebau ychwanegol, gan gynnwys Deddf Rhentu Cartrefi a'r Ddeddf Diogelwch Adeiladu. Yn y tymor hwy, bydd yr uno yn rhoi mwy o gyllid i ni ar gyfer gwaith atgyweirio, cynnal a chadw, gwasanaethau a'r cymunedau yr ydych chi'n byw ynddynt. - Beth yw'r manteision i mi?
Bydd uno yn rhoi gwell pŵer prynu i ni, a mwy o allu i wella gwasanaethau a chynnal cartrefi. Mi fydd hefyd yn ein helpu i fynd i'r afael yn well â'r angen am dai drwy roi'r gallu i ni adeiladu mwy o gartrefi newydd a chynyddu’n buddsoddiad mewn cartrefi presennol gan arwain at fodel gweithredu mwy effeithiol a gwydn. - Pwy yw Cartrefi Dinas Casnewydd (CDC)?
Mae Cartrefi Dinas Casnewydd yn gymdeithas dai a grëwyd pan drosglwyddodd Cyngor Dinas Casnewydd ei stoc yn 2009. Maent yn gweithredu o fewn ffin awdurdod lleol Casnewydd, gyda thua 10,000 o gartrefi. - A fyddaf yn cael pleidlais?
Na. Gan ein Byrddau y bydd y penderfyniad terfynol ynghylch a ydym yn uno, a chymeradwyir y penderfyniad gan ein rheoleiddwyr a’n benthycwyr. Mae'n bwysig i Melin, CDC a Llywodraeth Cymru bod barn ein preswylwyr / tenantiaid yn cael ei ystyried cyn dod i benderfyniad terfynol. Byddwch yn gallu dweud eich dweud am yr hyn sy'n bwysig i chi yn y sefydliad newydd, a'r gwasanaethau y mae'n eu darparu i chi, eich cartref a'ch cymuned. - Sut gallaf ddweud fy marn?
Byddwch yn gallu gwneud cais am le ar y panel cwsmeriaid ar y cyd, gan gynnwys cwsmeriaid a phreswylwyr Cartrefi Melin a CDC, i fod yn rhan o grŵp ffocws sy’n cynnwys cynrychiolwyr y preswylwyr fydd yn sicrhau bod adborth yn cael ei gyfleu cyn y gwneir penderfyniad terfynol, a bod eich lleisiau yn cael eu hymgorffori yn y sefydliad newydd. Neu os na allwch chi, neu nad ydych am ymrwymo cymaint o amser â hynny, cewch gyfle i ddweud eich dweud drwy arolygon, mynychu un o'r digwyddiadau niferus sy'n digwydd yn eich cymuned, neu gallwch ffonio Keith Edwards, eich Ymgynghorydd Tenantiaid annibynnol, ar 07949 443039 neu e-bostio
ITA@Promo.Cymru - Pryd bydd hyn yn digwydd?
Dechreuwyd trafod camau i uno ym mis Tachwedd y llynedd, a’r nod yw uno erbyn Gwanwyn 2025. Rydym yn cymharu ein swyddi a'n gwasanaethau fel unigolion i weld pa bethau yr ydym eu gwneud yn wahanol, yr hyn yr ydym yn ei wneud yn dda a lle gellir mynd ati i wella. Mae gennym gynllun ymgysylltu i ystyried barn ein preswylwyr ac rydym wedi cyflogi asiantaeth frandio i'n helpu ni (ochr yn ochr â phreswylwyr) i benderfynu ar enw a logo newydd. Mae cynllun busnes llawn yn cael ei ddrafftio, fel y gall byrddau a benthycwyr ei ystyried a'i gymeradwyo. Mae llawer i'w wneud wrth baratoi i uno, ond ein nod yw cwblhau’r cam erbyn gwanwyn 2025. - Pam fod hyn yn cymryd cymaint o amser?
Mae llawer i'w wneud wrth baratoi ar gyfer uno’r ddwy gymdeithas; creu cynllun busnes newydd, sicrhau ein bod yn rhoi amser a chyfle i breswylwyr ddweud eu dweud, a bydd newidiadau sy'n parhau unwaith y bydd y sefydliad newydd yn cael ei greu, wrth i ni uno systemau technoleg, staff, swyddfeydd ac ati. Fodd bynnag, mae’r cyfan oll yn cael ei wneud gyda’r nod y bydd uno yn ein galluogi i gynnal eich cartrefi i’r safonau uchaf, cynnig gwasanaethau sy’n gweddu i anghenion ein preswylwyr a chymunedau, ac adeiladu mwy o gartrefi newydd i ateb y galw cynyddol am dai. - Pa effaith fydd hyn yn ei chael ar wasanaethau rwy'n eu derbyn ar hyn o bryd?
Wrth i drafodaethau fynd rhagddynt ynghylch yr uno, ni ddylech sylwi ar unrhyw newid i’ch gwasanaethau. Mae’n fater o fusnes fel arfer. Y brif flaenoriaeth i'r ddwy gymdeithas yw darparu gwasanaethau a chartrefi gwych - ac i barhau i wella ar hyn. Ni fydd yr uno yn tynnu ein sylw oddi ar ganolbwyntio ar hyn. Yn y tymor hwy, bydd yr uno yn rhoi mwy o arian i ni ar gyfer atgyweiriadau, cynnal a chadw, gwasanaethau a’r cymunedau yr ydych yn byw ynddynt. - A fydd hyn yn effeithio ar fy nghontract?
Na, bydd gennych yr un brydles neu gontract meddiannaeth o hyd ac nid yw hyn yn effeithio ar eich hawl i fyw yn eich cartref. - A fydd yn effeithio ar fy rhent / cynyddu’r rhent?
Ni fydd rhenti yn cynyddu o ganlyniad yr uno. Rydym yn gosod ein rhenti yn ôl Model Rhenti Byw Joseph Rowntree sy'n nodi na ddylai rhent fod yn fwy na 28% o incwm preswylydd. Byddwn yn parhau â'r broses hon yn 2025/26 . Mae mwy o wybodaeth am osod rhent ar gael ar ein gwefan Adborth ar yr ymgynghoriad i breswylwyr | Cartrefi Melin. Mae unrhyw newidiadau a wnawn i swm y rhent a godir arnoch yn cael eu harwain gan yr egwyddorion hyn. Mae Cartrefi Melin a chartrefi Dinas Casnewydd wedi mabwysiadu'r un dull o asesu pa mor fforddiadwy yw’r rhent. - A fydd fy swyddog cymdogaeth / rheolwr cynllun yn newid?
Na, ni fydd hyn yn newid o ganlyniad i'r uno ond gall eich Swyddog Cymdogaeth neu Rheolwr Cynllun newid oherwydd trosiant staff arferol neu os adolygir ardaloedd sy'n cael eu rheoli. - A phenderfynwyd eisoes ar yr uno, a chwblhau’r camau?
Gan ein Byrddau y bydd y penderfyniad terfynol ynghylch a ydym yn uno, a chymeradwyir hyn gan ein rheoleiddwyr a’n benthycwyr. Byddwch yn gallu dweud eich dweud am yr hyn sy'n bwysig i chi yn y sefydliad newydd, a'r gwasanaethau y mae'n eu darparu i chi, eich cartref a'ch cymuned. Ein bwriad yw cwblhau’r camau ac uno yng Ngwanwyn 2025. - Fedrai gymryd rhan / dweud fy nweud?
Wrth gwrs. Hoffem glywed eich barn. Byddwch yn gallu gwneud cais am le ar y panel cwsmeriaid ar y cyd, i fod yn rhan o grwp ffocws sy’n cynnwys cynrychiolwyr y preswylwyr fydd yn sicrhau bod adborth yn cael ei gyfleu cyn y gwneir penderfyniad terfynol, a bod eich lleisiau yn cael eu hymgorffori yn y sefydliad newydd. Neu os na allwch chi, neu nad ydych am ymrwymo cymaint o amser â hynny, cewch gyfle i ddweud eich dweud drwy arolygon, mynychu un o'r digwyddiadau niferus sy'n digwydd yn eich cymuned, neu gallwch ffonio Keith Edwards, eich Ymgynghorydd Tenantiaid annibynnol, ar 07949 443039 neu e-bostio ITA@Promo.Cymru - A fydd gwaith atgyweirio neu waith sydd wedi’i gynllunio yn cael ei ohirio oherwydd yr uno?
Wrth i drafodaethau ynglŷn ag uno fynd rhagddynt ni ddylech sylwi ar unrhyw newid i'ch gwasanaethau. Mae’n fater o fusnes fel arfer. Y brif flaenoriaeth i'r ddwy gymdeithas yw darparu gwasanaethau a chartrefi gwych - ac i barhau i wella ar hyn. Ni fydd yr uno yn tynnu ein sylw oddi ar ganolbwyntio ar hyn. Yn y tymor hwy, bydd yr uno yn rhoi mwy o arian i ni ar gyfer atgyweiriadau, cynnal a chadw, gwasanaethau a’r cymunedau yr ydych yn byw ynddynt. - A fydd hi'n haws i mi symud nawr?
Yng Nghasnewydd, mae cartrefi ar gyfer Melin a Chartrefi Dinas Casnewydd yn cael eu dyrannu drwy Home Options, y Gofrestr Tai Cyffredin, a bydd y trefniadau hyn yn parhau ar ôl uno. Un o fanteision uno fydd cynyddu nifer y cartrefi newydd y byddwn yn eu hadeiladu, a fydd yn helpu i leddfu’r pwysau ar restrau aros presennol am dai. - A fydd yr uno yn effeithio ar fy hawl i gydgyfnewid/trosglwyddo?
Mae'r 'hawl i drosglwyddo' fel y'i gelwir bellach yn hawl sydd wedi'i hymgorffori yn neddfwriaeth newydd y Ddeddf Rhentu Cartrefi, ac ni fydd uno yn effeithio ar yr hawl hon.
Panel ar cyd i gwsmeriaid: Cwestiynau
- Beth yw rôl y panel?
Mae’n banel ar y cyd, sy’n cynnwys cwsmeriaid a phreswylwyr Melin a CDC, a all sicrhau bod pob llais yn cael ei glywed, cadw llygad i sicrhau ein bod yn gwneud y peth iawn i’n cymunedau a dylanwadu ar benderfyniadau. Bydd Aelodau'n chwarae rhan allweddol wrth ddylanwadu ar y broses uno o safbwynt y cwsmer ac yn sicrhau bod barn cwsmeriaid wrth wraidd yr holl brosesau wrth wneud penderfyniadau.
Os ydych chi'n angerddol am eich cymuned ac am gefnogi pobl i ddweud eu dweud, dyma ffordd wych o gael dylanwad go iawn yn y ffordd y mae cartrefi a chymunedau yn cael eu rheoli ar draws De-ddwyrain Cymru. - Faint o gwsmeriaid ydych chi'n chwilio amdanynt?
Bydd 12 cwsmer a phreswyliwr yn ffurfio’r panel. Mae pedwar o'r lleoedd wedi'u llenwi gan gwsmeriaid presennol a phreswylwyr Melin a CDC, ac maent eisoes wedi chwarae rhan allweddol wrth ddewis a phenodi’r Ymgynghorydd Tenantiaid annibynnol a darpar Brif Weithredwr y sefydliad newydd. Rydym yn bwriadu llenwi'r wyth lle sy'n weddill. - Pam ydych chi'n chwilio am 12 o bobl yn unig i fod yn rhan o’r Panel ar y cyd?
Rydym am i chi gael y cyfle i ddweud wrthym beth sy'n bwysig i chi. Mae llawer o wahanol ffyrdd i wneud hyn, drwy arolygon a digwyddiadau ymgysylltu yn eich cymunedau. Mae panel o 12 yn caniatáu i ni gael cynrychiolaeth amrywiol o blith preswylwyr a chwsmeriaid, tra'n dal i allu cynnal cyfarfodydd lle mae gan bob unigolyn amser a lle i leisio’u barn. - Pam nad oes modd cynnwys mwy o gwsmeriaid ar eich panel?
Gyda phanel o fwy na 12, mae'n anoddach rhoi amser i bob unigolyn leisio’i farn. Fodd bynnag, mae llawer o ffyrdd gwahanol i gymryd rhan, gydag arolygon a digwyddiadau ymgysylltu yn eich cymunedau. Rydyn ni eisiau rhoi cyfle i bob un ohonoch ddweud wrthym beth sy'n bwysig i chi. - Pa sgiliau neu brofiad sydd eu hangen arnoch?
- Brwdfrydedd ac ymrwymiad.
- Bod yn chwaraewr tîm – gweithio gydag eraill yn y tîm i gyflawni amcanion.
- Y gallu i ymuno ar Zoom neu Microsoft Teams ar gyfer cyfarfodydd ar-lein.
- Parch at bobl eraill, hyd yn oed pan fydd eu safbwyntiau a'u barn yn wahanol i'ch barn chi.
- Parodrwydd i siarad am atebion, a chyfrannu syniadau.
- Y gallu i fod yn wrthrychol, agored, ac onest a pharchu cyfrinachedd.
- Y gallu i ddeall a chwestiynu materion a gwybodaeth a gyflwynir mewn adroddiadau.
Darperir hyfforddiant a/neu fentora ym mhob agwedd o'r gwaith y byddwch yn ei wneud, felly nid oes angen i chi boeni os nad oes gennych yr holl sgiliau hyn ar hyn o bryd - mae parodrwydd a'r gallu i ddysgu yn bwysicach.
Nid yw byth yn rhy hwyr i ddysgu sgiliau newydd, a allai helpu mewn bywyd bob dydd neu i gael cyfleoedd gwaith yn y dyfodol. Mae hefyd yn cynnig cyfleoedd gwych o ran cymdeithasu a rhwydweithio.
- Pa fath o ymrwymiad sydd ei angen o ran amser?
Bydd angen i chi ymuno â chyfarfodydd (dwy i dair awr yr wythnos), sesiynau hyfforddi a chynllunio, a darllen dogfennau i baratoi ar gyfer cyfarfodydd. - Rwy'n gweithio'n llawn amser felly bydd angen i mi gwrdd ar ôl gwaith, a allaf ymgeisio?
Wrth gwrs, fe allwch ymgeisio. Mi fyddwn yn ceisio bod mor hyblyg ag y medrwn o ran dyddiadau ac amserau cyfarfodydd. - Ymhle bydd y cyfarfodydd yn cael eu cynnal?
Cynhelir cyfarfodydd wyneb yn wyneb naill ai yn swyddfeydd Melin neu CDC. - A yw'r cyfarfodydd wyneb yn wyneb neu ar-lein?
Cynhelir cyfarfodydd wyneb yn wyneb lle bo hynny'n bosibl, ond hefyd drwy Microsoft Teams neu Zoom. - Pa gefnogaeth byddaf yn ei chael i ddod i’r cyfarfodydd – hy gofal plant, cael hyd i wifi, tacsis ac ati?
Mae manteision go iawn wrth ddod yn rhan o'r Panel ar y cyd i gwsmeriaid.
Bydd cwsmeriaid Melin a NCH yn derbyn tâl o hyd at £15 tuag at gostau Wi-Fi am gymryd rhan yn y panel, ynghyd ag unrhyw dreuliau rhesymol, i wneud yn siŵr y gallwch ddod i ymuno yn y cyfarfodydd rhithiol yn ogystal â chyfarfodydd wyneb yn wyneb.
Byddwch yn derbyn hyfforddiant rhagorol mewn meysydd sy’n cynnwys cyfathrebu, cyfweld, perswadio a dylanwadu ar bobl, sgiliau trafod a phendantrwydd.
Byddwn yn meithrin sgiliau adeiladu tîm ac yn edrych ar Dai mewn cyd-destun ehangach yn ogystal â dysgu am yr heriau sy'n wynebu cwsmeriaid ar hyn o bryd, y cyd-destun cenedlaethol a pham mae hynny'n bwysig i gwsmeriaid yn lleol. - Sut ydw i'n ymgeisio?
Bydd angen i chi fynychu cyfarfod ochr yn ochr â chwsmeriaid a phreswylwyr eraill sydd â diddordeb, lle gallwch ddarganfod mwy am y rôl a phenderfynu a yw'n iawn i chi.
Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal yn Swyddfa Cartrefi Dinas Casnewydd yn Nexus House, ddydd Iau 23 Mai 2024. Mae gennych ddewis o sesiynau:
10:30 a.m. – 12:30 p.m.
1:00 p.m. – 2:30 p.m.
5:30 p.m. – 7:00 p.m.
Os nad ydych ar gael ar gyfer unrhyw un o'r dyddiadau neu'r amserau hyn, byddwn yn trefnu dyddiadau ychwanegol. - Beth yw'r broses ddethol?
Yn dilyn y cyfarfod ar 23 Mai, os oes gan breswylwyr ddiddordeb mewn cymryd rhan, gofynnir iddynt gwblhau datganiad o ddiddordeb byr, yn nodi pam y maen nhw am ymuno â’r panel a'r hyn y gallant ei gynnig i'r rôl.
Os oes mwy o gwsmeriaid a phreswylwyr na nifer y lleoedd sydd ar gael, bydd proses ddethol syml, gyda chefnogaeth yr Ymgynghorydd Tenantiaid annibynnol. Ceir mwy o wybodaeth am hyn yn y cyfarfod ar 23 Mai.
Ymgynghorydd Tenantiaid annibynnol - Cwestiynau
- Beth yw'r rôl Ymgynghorydd Tenantiaid annibynnol?
Bydd yr Ymgynghorydd Tenantiaid annibynnol wrth law i dywys yr holl breswylwyr drwy'r broses uno. Mi fydd yn siarad â chynifer o bobl â phosibl fel y gallwch ddweud eich dweud ar sut y dylech elwa o’r sefydliad newydd. - Sut gall yr Ymgynghorydd fod yn annibynnol os ydych yn ei dalu?
Mae'r rôl yn un sy’n derbyn tâl i sicrhau bod gan yr ymgynghorydd y wybodaeth a'r profiad cywir i'ch helpu drwy'r broses uno. Nid yw’r ymgynghorydd yn rhan o Gartrefi Melin na Chartrefi Dinas Casnewydd, sy'n golygu y gall fod yn niwtral ac yn ddiragfarn. Ei bwrpas yw eich cefnogi a’ch helpu i sicrhau bod pawb yn cael llais. Mae TPAS (Tenant Participatory Advisory Service) yn ystyried bod penodi Ymgynghorydd Tenantiaid annibynnol yn arfer gorau. - A fyddaf yn gallu siarad ag ef yn gyfrinachol, heb i'm landlord wybod?
Byddwch. Bydd yr ymgynghorydd yn cyfleu eich adborth a dweud wrthym beth sydd yn bwysig i chi, ond mae’r cyfan oll yn gyfrinachol ac os yw’n well gennych, bydd eich barn yn gwbl ddienw. - Sut allaf gysylltu â’r Ymgynghorydd Tenantiaid annibynnol?
Gallwch alw Keith Edwards, eich Ymgynghorydd Tenantiaid annibynnol ar 07949 443039 neu e-bostio ITA@Promo.Cymru.