Polisi Cwcis This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.
Tudalen Breifatrwydd

Yn ôl i Amdanon Ni

Datganiad Caethwasiaeth Fodern a Masnachu Pobl

Mae Deddf Caethwasiaeth Fodern 2015 yn cyfuno nifer o droseddau’n ymwneud â’r fasnach mewn pobl a chaethwasiaeth.

Yn fras:

  • ystyr ‘caethwasiaeth’ yw bod rhywun yn ystyried eu bod yn berchen ar berson.
  • ystyr ‘caethiwed’ yw gorfodi person i ddarparu gwasanaethau.
  • ystyr ‘llafur gorfod neu orfodol’ yw bod person yn gweithio neu’n darparu gwasanaethau heb fod hynny o’u gwirfodd, gyda’r bygythiad o gosb.
  • mae ‘masnach mewn pobl’ yn golygu trefnu neu hwyluso trafnidiaeth person gyda’r bwriad o gymryd mantais ohonyn nhw.

Mae adran 54 y Ddeddf yn gosod rhwymedigaeth gyfreithiol ar sefydliadau masnachol mawr i adrodd ar dryloywder mewn cadwyni cyflenwi ac yn gofyn am gyhoeddi datganiad blynyddol ar gaethwasiaeth a’r fasnach mewn pobl. Y datganiad hwn yw datganiad Cartrefi Melin ar Gaethwasiaeth Fodern a’r Fasnach mewn Pobl. Allan o is-gwmnïau Melin, mae’r datganiad hwn yn cynnwys gweithgareddau Candleston Limited, sy’n prynu nwyddau a gwasanaethau gan ac sy’n rhan o gadwyn gyflenwi Melin.

Cyflwyniad

Cyhoeddodd Melin eu datganiad cyntaf ar Gaethwasiaeth Fodern a’r Fasnach mewn Pobl yn 2016 ac mae’r datganiad wedi cael ei ddiwygio pob blwyddyn er mwyn adlewyrchu ein gwaith parhaol yn unol â’n hymrwymiad i atal caethwasiaeth a’r fasnach mewn pobl yn ein busnes a chadwyni masnach. Mae’n dangos y mesurau yr ydym yn eu cymryd i sicrhau cydymffurfiad â Deddf Caethwasiaeth Fodern 2015 a lleihau’r risg o gysylltiad ag unrhyw arferion sy’n tanseilio egwyddorion diogelwch ac urddas ein cwsmeriaid ac yn y gwaith yn enwedig i bobl o grwpiau sy’n agored i niwed. Mae’n cynnwys ein sefyllfa bresennol ar gaethwasiaeth fodern a’r gweithgareddau yr ymgymerwyd â nhw yn ystod y flwyddyn.

Mae ein gwaith o fewn y sector tai yn golygu bod gennym gyfrifoldeb i gymryd agwedd gadarn tuag at gaethwasiaeth a masnachu pobl.

Rydym wedi ymrwymo'n llwyr i atal caethwasiaeth a masnachu pobl yn ein gweithgareddau corfforaethol, gyda'n trigolion ac o fewn ein cadwyni cyflenwi.

Strwythurau sefydliadol a chadwyni cyflenwi

Mae Melin yn cymryd camau i frwydro caethwasiaeth a’r fasnach mewn pobl. Mae gennym agwedd dim goddefgarwch tuag at gaethwasiaeth a’r fasnach mewn pobl ac rydym wedi ymrwymo i weithredu’n foesegol ac yn onest. Rydym hefyd yn cymryd camau i sicrhau fod ein cadwyni cyflenwi’n gweithredu ar sail gyfreithiol a moesegol.

Mae’r datganiad hwn yn cynnwys gweithgareddau Cartrefi Melin fel a ganlyn:

  • Mae Melin yn cynnig amrywiaeth eang o gynnyrch i ddiwallu anghenion tai ac uchelgais eu cwsmeriaid yn seiliedig ar amgylchiadau personol. Mae hyn yn cynnwys amrywiaeth eang o atebion tai i’r rheiny sydd ddim yn gallu cael tai am bris y farchnad;
  • Rydym yn gweithio i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau cwsmeriaid trwy gryfhau cymunedau, gan weithio mewn partneriaeth ag eraill i greu capasiti, creu cyfleoedd gwaith a hyrwyddo annibyniaeth;
  • Rydym yn gweithredu strategaeth rheoli asedau gyda’r bwriad o wneud y mwyaf o gyfalaf a chynnal safonau llety uchel;
  • Rydym yn gweithredu strategaeth cynaliadwyedd effeithiol sy'n ceisio cynyddu ymwybyddiaeth y gymuned ynghylch materion amgylcheddol ac ynni a chefnogi cynhesrwydd fforddiadwy;
  • Rydym yn gweithio i yrru ymlaen arferion arloesol yn y gwasanaeth sy’n gwella profiad cwsmeriaid a hyrwyddo defnydd effeithlon o’n gwasanaethau;• Rydym yn rheoli dros 4,500 o gartrefi ac yn darparu ystod o wasanaethau a phrosiectau i greu cymunedau gwell;
  • Rydym wedi sefydlu ein hunain fel arweinydd yn y farchnad o ran darparu cymorth i bobl hŷn a bregus sy’n byw yn y gymuned ac rydym mewn sefyllfa dda i sicrhau contractau cyflenwi newydd ledled De Cymru;
  • Rydym yn cynnal a chadw cartrefi ar draws yr ardaloedd yn yr ydym yn gweithredu ynddynt;
  • Rydym yn un o brif ddatblygwyr cartref cartrefi newydd ar draws de ddwyrain Cymru.

Mae Melin yn gwario swm sylweddol o arian ar nwyddau, gwaith a gwasanaethau a’n bwriad yw gwneud y mwyaf o werth ac arfer gorau trwy broses gaffael y gwasanaethau hynny. Mae ein harchwilwyr yn archwilio ein gofynion cadwyn gyflenwi.

Risg

Mae Melin yn rheoli risg trwy ein Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd a’r Gofrestr Risg. Y bwriad yw diogelu asedau’r cwmni, sicrhau cydymffurfiad â phob gofyniad statudol a rheoleiddio a gwneud y mwyaf o’r cyfleoedd i lwyddo yn ein hamcanion corfforaethol.

Gweithredoedd risg uchel

Nid yw Melin yn cyflawni gweithredodd sy’n cael eu hystyried yn rhai â risg uchel o gaethwasiaeth a’r fasnach mewn pobl.

Mae cyfrifoldeb Melin ar gyfer gweithredu yn erbyn caethwasiaeth a’r fasnach mewn pobl fel a ganlyn:

  • Polisïau: Mae Rheolwr y Tîm Gwella Busnes yn gyfrifol am reoli ac arwain ar ddatblygu polisïau a gweithdrefnau newydd a phresennol ar draws Melin trwy Borth Polisi Melin. Mae pob polisi yn destun proses cymeradwyo ac yn cynnwys Asesiad Effaith Cydraddoldeb. Mae effaith Caethwasiaeth Fodern yn weledol ar draws ystod o bolisïau.
  • Asesiadau Risg: Rydym yn datgan yn ein cofrestr y byddwn yn cydymffurfio â Deddf Caethwasiaeth Fodern ac mae gweithdrefnau ar gyfer monitro gofynion caethwasiaeth fodern yn effeithiol. Bydd cynhyrchu ein datganiad Caethwasiaeth Fodern hefyd yn lleddfu rhai o’n risgiau a adnabyddwyd o’r blaen.
  • Ymchwiliadau / Diwydrwydd Dyladwy: Bydd TIAA, ein Harchwilwyr Mewnol yn nodi ac yn archwilio unrhyw ddiffyg cywirdeb posibl. Bydd y gwaith yn cael ei asesu a ffi briodol yn cael ei chodi, os oes angen.
  • Hyfforddiant: Mae Melin yn cynnwys hyfforddiant ar gaethwasiaeth a’r fasnach mewn pobl yn ein cynllun hyfforddiant corfforaethol ac mae’n rhan o’r broses gyflwyno ar gyfer staff newydd.

Polisïau perthnasol

Mae gan Melin y polisïau canlynol sy’n disgrifio’n ffordd o adnabod risgiau o gaethwasiaeth fodern a’r camau i’w cymryd i atal caethwasiaeth a’r fasnach mewn pobl:

  • Cod Ymddygiad Cyflogeion A Rheolwyr;
  • Polisi Caffael;
  • Polisi Recriwtio;
  • Polisi Chwythu’r Chwiban;
  • Pecyn Cymorth Caethwasiaeth Fodern

Hefyd, Melin oedd y sefydliad cyntaf yng Nghymru i ymuno â Chod Ymarfer Cyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi Llywodraeth Cymru sy’n gosod allan fframwaith o gylch materion cyflogaeth sy’n cynnwys Caethwasiaeth Fodern a Chamdriniaeth Hawliau Dynol, Cosbrestru, Hunangyflogaeth Ffug, Defnydd Annheg o Gynlluniau Ymbarél, Cytundebau Sero Awr a Thalu’r Cyflog Byw. Mae Melin yn esblygu’n prosesau o hyd er mwyn sicrhau ein bod yn cydymffurfio â’r Cod ac yn parhau i gefnogi’n contractwyr i gytuno â’r Cod a gweithredu o fewn yr un fframwaith.

Diwydrwydd dyladwy

Mae Melin yn ymgymryd ag ymchwiliadau diwydrwydd dyladwy wrth ystyried cyflenwyr newydd neu ble mae’n gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau eraill. Mae ein diwydrwydd dyladwy a’n hadolygiadau’n cynnwys:

  • Cymryd camau i wella arferion eilradd gan gyflenwyr, gan gynnwys rhoi cyngor i gyflenwyr os oes angen ac angen i gyflwyno cynlluniau gwaith.
  • Cyflwyno cosbau yn erbyn cyflenwyr sy’n methu â gwella’u perfformiad yn unol â chynllun gwaith neu sy’n torri ein cod ymddygiad i gyflenwyr yn ddifrifol, gan gynnwys dod â pherthynas fusnes i ben.

Monitro effeithlonrwydd

Rydym wedi adolygu ein mesurau perfformiad ers Deddf Caethwasiaeth Fodern 2015 ac, o ganlyniad, rydym wedi cyflwyno ac wedi monitro nifer yr achosion o dorri Deddf Caethwasiaeth Fodern, i sicrhau ein bod yn cyrraedd dim un.

Byddwn yn parhau i fynnu bod ein staff i gyd yn cwblhau hyfforddiant ar gaethwasiaeth fodern, yn flynyddol i’r staff presennol ac fel rhan o’r cyflwyniad i staff newydd.

Mewn perthynas â chyflenwyr newydd, ar gyfer unrhyw dendrau ar gyfer cytundebau, mae cydymffurfiad â Deddf Caethwasiaeth Fodern wedi ei gynnwys yn y broses ddewis, a bydd methu â bodloni hyn yn arwain at ddiarddel yr ymgeisydd hwnnw. Mae cymalau safonol wedi eu cynnwys ein telerau ac amodau gan chwilio am sicrwydd gan gyflenwyr eu bod yn cydymffurfio.

Hyfforddiant

Mae gan Adobe Learning Manager, ein system ddysgu ar-lein, fodiwl e-ddysgu sy’n cynnwys caethwasiaeth fodern a masnachu pobl ac mae’n ofyniad statudol i bob aelod o staff Melin. Rydym hefyd yn darparu i’r staff, trwy’r fewnrwyd, gwybodaeth sylfaenol am yr hyn sydd angen i staff ei wneud i amlygu achosion posibl o gaethwasiaeth neu’r fasnach mewn pobl a pha gymorth allanol sydd ar gael (e.e. Llinell Gymorth Caethwasiaeth Fodern).

Mae hyfforddiant mwy manwl ar gaethwasiaeth fodern ar gael i staff sy’n ymwneud â chaffael a chadwyni cyflenwi yn flynyddol a byddwn yn parhau i gynnwys ein partneriaid, cyflenwyr a chontractwyr mewn hyfforddiant perthnasol.

Yn ogystal, mae aelodau staff a gyflogir yn y Tîm Cynaliadwyedd sydd â chyfrifoldeb am gyngor a chefnogaeth ar gaffael yn ymgymryd â chymwysterau proffesiynol y Sefydliad Siartredig Caffael a Chyflenwi (CIPS) ac yn derbyn hyfforddiant arbenigol ar gaffael moesegol. Mae'r wybodaeth a'r sgil arbenigol hon yn parhau i gael eu bwydo i mewn i arferion Melin.

Edrych ymlaen

Dros y flwyddyn nesaf, byddwn yn parhau i wella ein gweithdrefnau i’n helpu i adnabod, atal a lleddfu unrhyw risgiau o gaethwasiaeth fodern neu fasnach mewn pobl mewn perthynas â chyflenwyr newydd a phresennol.

Cymeradwyaeth y Bwrdd

Cymeradwywyd y datganiad hwn Fwrdd Cartrefi Melin a fydd yn ei adolygu a’i ddiweddaru yn flynyddol. Adolygwyd y datganiad hwn ddiwethaf ym mis Tachwedd 2023.

Mae fersiwn PDF o’r datganiad yma, wedi ei lofnodi a’i ddyddio gan Fwrdd Melin a’r Prif Weithredwr ar gael.