Uwch Reolwyr
Cynnwys
Mae ein tîm Uwch Reoli yn gyfrifol am reolaeth weithredol a strategol Melin o ddydd i ddydd. Maen nhw’n rhoi arweinyddiaeth i’r sefydliad, gan gefnogi ein staff a’r amgylchedd gwaith i lwyddo yn ein nodau a’n hamcanion.
Paula Kennedy
Prif Weithredwr
Mae Paula wedi gweithio mewn tai cymdeithasol ers dros 30 mlynedd, gyda 16 o’r rhain yng Nghymru.
Fe’i penodwyd yn Brif Weithredwr yn 2017, ac mae’n dod â digonedd o wybodaeth o’i rolau blaenorol gyda Brunel Care a Herefordshire Housing.
Peter Crockett
Dirprwy Brif Weithredwr a Rheolwr Gyfarwyddwr Candleston Homes
Mae Peter wedi bod mewn swyddi uwch reolwr yn y sector cymdeithasau tai ers 1995 ble cafodd brofiad sylweddol ym mhob agwedd ar weithgareddau masnachol, gan gynnwys cyllid strategol, benthyciadau, datblygiad a phob gwasanaeth cynorthwyol arall.
Adrian Huckin
Cyfarwyddwr Gweithredol Gwasanaethau Corfforaethol a Chyfarwyddwr Cwmni Y Prentis
Ymunodd Adrian â Chartrefi Melin ym Medi 2010 ar ôl gweithio o’r blaen yn y sectorau cyhoeddus a Chymdeithasau Tai.
Mae e wedi gweithio yn y sector tai ers 1982, gyda swyddi uwch rheoli yng Nghynghorau Casnewydd a Thorfaen a Thai Cymunedol Bron Afon.
Joanne Kirrane
Cyfarwyddwr Gweithredol Pobl, Cartrefi a Chymunedau
Mae gyrfa Joanne wedi bod mewn iechyd, tai a gofal cymdeithasol, mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn cydweithio ar draws sectorau ac mae hi wedi gweithio i Gartrefi Melin ers 2013.
Justin Wigmore
Cyfarwyddwr Tai
Mae Justin wedi gweithio mewn tai cymdeithasol ers 1997 ac mae ganddo brofiad o weithio i Awdurdod Lleol a Chymdeithasau Tai.
Gerrard Williams
Cyfarwyddwr Datblygiad
Mae Gerrard yn Syrfëwr Siartredig ac mae wedi gweithio mewn datblygiad ers 1987, ac mae wedi gweithio yn y sector tai ers 2010. Roedd gynt yn Gyfarwyddwr Datblygiad yn Hereford Futures Ltd a, chyn hynny, yn Rheolwr Masnachol ym Mhentref Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd.
Tom Broadhead
Cyfarwyddwr Cefnogaeth Busnes ac Ysgrifennydd y Cwmni
Mae Tom wedi gweithio mewn tai cymdeithasol ers 2000 mewn amrywiaeth o rolau. Mae ganddo rolau amrywiol hefyd gyda CIH Cymru, Cylchgrawn Welsh Housing Quarterly, bwrdd Cymdeithas Tai Merthyr Tudful a Thyfu Tai Cymru.
Elizabeth Howard
Cyfarwyddwr Cyllid
Mae Elizabeth wedi gweithio mewn tai cymdeithasol ers 2005, ar ôl dechrau ei gyrfa ariannol mewn ymgynghoriaeth TG yng Nghaerdydd.
Lyndon Griffiths
Cyfarwyddwr Tir Grŵp
Mae Lyndon yn syrfëwr datblygiad/tir profiadol sydd wedi gweithio yn y sector tai cymdeithasol ers dros 25 mlynedd. Mae ei rôl bresennol for Cyfarwyddwr Tir gyda Candleston a Chartrefi Melin yn cynnwys hwyluso caffael tir a chydlynu pob cyfle datblygiad newydd ar ran y grŵp.
Scott Rooks
Cyfarwyddwr Masnachol Candleston
Mae Scott yn Syrfëwr Meintiau Siartredig ac mae wedi gweithio yn y diwydiant adeiladu ers 2002, ar ôl dechrau ei yrfa gydag ymgynghoriaeth adeiladwaith yng ngogledd Lloegr, symudodd y Gymru yn 2007 ac ymunodd â Candleston yn 2018.