Ynglŷn â Chartrefi Melin
Cynnwys
Rydym yn gymdeithas tai sy’n darparu dros 4,500 o gartrefi fforddiadwy i bobl yn ne ddwyrain Cymru, ar draws pum awdurdod lleol.
Rydym yma i greu cyfleoedd i bobl a chymunedau gael ffynnu.
Rydym yn sefydliad sy’n meddwl yn flaengar, sy’n ddigon mawr i chi gael gwneud gwahaniaeth ond yn ddigon bach i ofalu. Mae pob un ohonom yn angerddol dros wneud gwahaniaeth i fywydau pobl. Trwy ymuno â’n tîm o dros 250 o bobl, byddwch bob amser yn ymwybodol bod eich gwaith caled yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol a chadarnhaol.
Coeden deuluol Melin
Cartrefi Melin yw rhiant y grŵp ac mae'n Gymdeithas Gydfuddiannol, wedi ei chofrestru gyda’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol, sy’n gweithredu yn ôl Rheolau Elusennol.
Mae Melin yn darparu ac yn rheoli cartrefi fforddiadwy ar draws pum ardal awdurdod lleol. Cartrefi Melin yw unig ymddiriedolwr Cymdeithas Elusendy Henry Burton a Chymdeithas Elusendy Roger Williams a’r Frenhines Victoria.
Candleston
Mae Candleston Limited yn is-gwmni Cartrefi Melin, wedi ei greu i gyflenwi cartrefi o naws uchel o bob daliadaeth, gan gynnwys rhai i’w gwerthu’n syth. Mae’r elw’n cael ei fuddsoddi eto mewn cymunedau i helpu Melin i lwyddo yn ei amcanion elusennol.
Y Prentis
Cwmni annibynnol yw Y Prentis, yn eiddo i Gartrefi Melin a Chyngor Sir Fynwy ar y cyd. Mae Y Prentis yn cynnal cynllun prentisiaethau ar y cyd de ddwyrain Cymru gyda Construction Skills a’u haelodau yn y diwydiant.