Gwaith trwsio ar gyfer tai gwarchod
Cyfrifoldebau trwsio
Mae’r wybodaeth ar y dudalen hon yn rhoi trosolwg cyffredinol o rwymedigaethau Melin a’r les-ddeiliad o ran gwaith trwsio. Mae hefyd yn sôn am welliannau y gallwch chi eu gwneud i’ch cartref.
Os oes unrhyw amheuaeth gennych am waith trwsio neu welliannau, darllenwch dros eich les i ddechrau. Isod, mae yna wybodaeth fanylach am gyfrifoldebau trwsio ar gyfer ardaloedd penodol.
Ein cyfrifoldebau
Melin sy’n gyfrifol am rannau allanol a rhannau cymunol yr adeilad, a rhywfaint o’r gwaith trwsio tu mewn i’r fflatiau. Mae’r cyfrifoldebau hyn yn cynnwys:
- Trwsio sylfeini a’u cynnal a chadw;
- Ceblau trydan;
- Socedi a switshis;
- System wresogi;
- Pibau dŵr;
- Yr holl ddraeniau, heblaw am ddraeniau sydd wedi’u blocio sy’n gyfrifoldeb ar les-ddeiliaid unigol;
- Y to;
- Erialau cymunol;
- Drysau ffrynt fflatiau (gan gynnwys nwyddau haearn);
- Rhosynnau/dalwyr golau yn y nenfwd;
- Yr holl ffenestri;
- Strwythur waliau allanol;
- Addurno ardaloedd cymunol ac eithrio rhannau allanol yr adeilad.
Byddwn yn:
- rhoi rhybudd rhesymol pan fydd angen cael mynediad arnom (er, efallai na fydd hyn yn bosibl mewn argyfwng);
- cyflawni ein dyletswyddau o dan delerau’r les.
Rhaid i chi:
- roi mynediad i’ch cartref i staff perthnasol Melin ac isgontractwyr Melin. Cofiwch ofyn am gerdyn adnabod sy’n profi pwy ydyn nhw;
- riportio unrhyw waith trwsio i Melin;
- cadw drysau mewnol, waliau, pibau gwasanaeth, cyfleustodau’r gegin, baddonau, sinciau, toiledau a basnau ymolchi dwylo i weithio’n dda;
- peidio â gwneud unrhyw waith strwythurol nac unrhyw addasiadau strwythurol hyd nes i chi gael caniatâd ysgrifenedig.
Gallwch:
- ailaddurno tu mewn i’ch fflat a gosod ffitiadau newydd yn eich eiddo er enghraifft baddonau, sinciau a chypyrddau’r gegin.
Gwelliannau
Os ydych yn dymuno gwneud gwelliannau, yna dylech ddweud wrthym a rhoi cymaint o fanylion â phosibl. Dylech adael i ni weld unrhyw gynlluniau hefyd, os oes angen. Wedi i chi gael caniatâd, rhaid i chi gydymffurfio ag unrhyw reoliadau cynllunio ac adeiladu a gofynion cyfredol y cwmnïau nwy, dŵr a thrydan ynghyd ag unrhyw amodau y byddwn ni’n eu gosod.
Efallai y byddwn yn dymuno gweld y gwaith wedi i chi ei gwblhau a byddwch chi’n gyfrifol am dalu unrhyw gostau sy’n codi.
Mewn rhai achosion, efallai na fyddwn yn gallu rhoi caniatâd dros y gwelliannau. Byddwn yn rhoi’r rhesymau dros wrthod y gwelliannau i chi, yn ysgrifenedig.