Cydgyfnewid
Cynnwys
Os ydych eisoes yn byw gyda ni neu Gymdeithas Tai arall ond yn ystyried symud, tybed ai cydgyfnewid yw’r ateb.
Beth yw cydgyfnewid?
Cydgyfnewid yw pan fydd dau o drigolion cymdeithas tai yn penderfynu cyfnewid cartrefi.
Mae’n bosibl i denant gydgyfnewid dan yr amodau a ganlyn yn unig:
- Byddwch wedi cwblhau blwyddyn gyntaf eich tenantiaeth.
- Nid oes gennych ôl-ddyledion rhent.
- Nid ydych wedi torri amodau eich cytundeb tenantiaeth
Mae’n bwysig, cyn y gellir cydgyfnewid, bod y ddau barti dan sylw wedi gofyn am ganiatâd eu landlord cymdeithasol yn gyntaf.
HomeSwapper
HomeSwapper yw 'r gwasanaeth cydgyfnewid cenedlaethol mwyaf i drigolion sydd am gyfnewid eu cartref yn lleol a chenedlaethol! Mae’n hawdd ei ddefnyddio, gallwch lawr lwytho’r ap ar eich ffôn symudol neu rhoi clic ar wefan HomeSwapper.