Fforddiadwyedd Rhent 2022/23
Hoffem rannu canlyniadau ein hymgynghoriad diweddaraf â thrigolion ynglŷn â’n Model Fforddiadwyedd Rhent.
Ysgrifennwyd gan Will
—08 Chwef, 2023
Adolygiad fforddiadwyedd rhent
Yr haf diwethaf, gofynnon ni am adborth gan ein trigolion ynglŷn â’r Model Fforddiadwyedd Rhent y mae Melin yn defnyddio i osod cyfraddau rhent. Mae hyn yn seiliedig ar ‘Fodel Rhenti Byw’ Sefydliad Joseph Rowntree sy’n dweud na ddylai rhent fod yn fwy na 28% o incwm tenant. Cawsom adborth gan dros 1,200 o drigolion a chytunodd 93.9% ohonoch chi gyda’r dull yma. Cynhalion ni arolwg arall trwy neges destun yn Rhagfyr 2022 a dderbyniodd 526 o ymatebion. Roedd 87.2% o drigolion yn dal i gefnogi’r dull yma o osod ein rhenti.
Ymgynghoron ni hefyd yn ddiweddar â thrigolion ynglŷn â pha wasanaethau maen nhw’n gwerthfawrogi fwyaf. O bell ffordd, y gwasanaeth pwysicaf i drigolion oedd atgyweiriadau. Ar ôl hyn roedd Cyngor Melin a gwasanaethau cymorth. Roeddem ni’n falch hefyd o dderbyn llawer o sylwadau cadarnhaol am y lefel o wasanaeth cwsmeriaid yr ydym yn ei rhoi.
Gwnaethom ni’n siŵr hefyd yn ystod ein hymgynghoriad bod sylwadau gan drigolion a oedd yn gofyn am ateb yn cael eu hateb gan ein Tîm Cyswllt Cwsmeriaid. Rydym bob amser yn falch o glywed adborth, boed yn gadarnhaol neu’n negyddol, ac felly os ydych chi am rannu’ch barn ar unrhyw adeg, cysylltwch â ni.
Sut mae’r rhent byw yn cael ei gyfrif?
Rydym yn asesu cyfartaledd incwm o’r data a ddarperir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Mae hyn yn rhoi amcangyfrif i ni o niferoedd ar incwm isel yn yr ardaloedd ble mae gennym gartrefi. Bydd hyn yn cael ei wneud pob blwyddyn i sicrhau bod ein ffigyrau’n gyfredol. Mae Sefydliad Joseph Rowntree yn dweud nad yw costau cartref yn fforddiadwy os ydyn nhw’n fwy na thraean incwm yr aelwyd. Oherwydd hyn, rydym yn defnyddio 28% o’r incwm ar gyfartaledd ar gyfer y rheiny sydd ag incwm is er mwyn gosod ein rhenti.
Rydym wedi addasu’r rhenti ar gyfer cartrefi o wahanol feintiau a mathau trwy ystyried y teuluoedd lleiaf a fyddai’n cael eu gosod yn ein cartrefi.
Er enghraifft, mae rhan fwyaf ein cartrefi un ystafell wely ag unigolion sengl ynddynt, felly mae’r Rhent Byw ar gyfer y cartrefi yma yn seiliedig ar incwm unigolyn sy’n gweithio.
Mae’r Rhenti Byw ar gyfer ein cartrefi mwy yn uwch gan fod tueddiad y bydd mwy o aelodau’r teulu’n byw ynddyn nhw. Rydym wedi ystyried sut all incwm a gwariant teulu newid wrth i gartref newid ei faint.
Beth os ydw i’n hawlio Credyd Cynhwysol?
Os ydych chi’n derbyn Credyd Cynhwysol, bydd angen i chi roi gwybod i’r AWPh trwy eich porthol ar-lein ar ôl 6 Ebrill 2021 os yw eich rhent wedi cynyddu. Efallai byddan nhw’n parhau i dalu’r hen swm hyd nes y byddwch yn rhoi gwybod iddyn nhw am y cynnydd. Mae’n bwysig eich bod yn dweud wrthyn nhw nad oes gennych unrhyw wythnosau am ddim a’ch bod yn gorfod talu pob wythnos o’r flwyddyn.
Beth os ydw i’n hawlio Budd-dal Tai?
Byddwn yn rhoi gwybod i’r Awdurdod Lleol am unrhyw gynnydd mewn rhenti a does dim rhaid i chi wneud unrhyw beth.
Mae angen help arnaf i dalu fy rhent
P’un ai yw eich amgylchiadau wedi newid, rydych yn gweithio llai o oriau yn y gwaith, neu mae eich budd-daliadau wedi cael eu torri, gall ein Tîm Cyngor Ariannol roi cymorth i leddfu’r pwysau ar eich arian. Ffoniwch y tîm ar 01495 745910 neu danfonwch e-bost at moneyadvice@melinhomes.co.uk
Beth sydd nesaf?
Rydym yn edrych nawr ar ein taliadau am wasanaeth er mwyn sicrhau eu bod mor isel â phosibl ac yn rhoi gwerth i chi am eich arian. Byddwn yn rhoi gwybod mwy am hyn i chi wrth i’r gwaith ddatblygu.
Os hoffech chi gael gwybodaeth bellach ar y broses ymgynghori, cysylltwch â communuities@melinhomes.co.uk, neu, am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r hyn mae model fforddiadwyedd rhent yn ei olygu i chi, danfonwch e-bost at enquiries@melinhomes.co.uk neu ffoniwch 01495 745910.