Aelod o’r Heddlu lleol yn gweithio gyda’n Tîm Diogelwch Cymunedol
Daeth swyddog o’r Heddlu i ymweld â’n swyddfeydd yn ddiweddar er mwyn deall yn well sut mae rhai o’n timau yn gweithio.
Ysgrifennwyd gan Marcus
—08 Rhag, 2016
Daeth swyddog o’r Heddlu i ymweld â’n swyddfeydd yn ddiweddar er mwyn deall yn well sut mae rhai o’n timau yn gweithio. Daeth PC Jo Skinner i weld y Tîm Diogelwch Cymunedol yr wythnos diwethaf. Er bod ein tîm eisoes yn gweithio’n agos â’r heddlu, roedd PC Skinner yn gallu gweld faint o waith sy’n mynd i mewn i bob achos unigol a pha mor allweddol gall gwybodaeth gan yr Heddlu fod wrth ddatrys achos. Dywedodd PC Skinner “Mwynheais yn fawr y cyfle i weld beth mae’r tîm yn gwneud o ddydd i ddydd, yn arbennig mynd allan i ymweld a gweld y gwaith sy’n mynd i mewn i achos a fydd yn mynd i’r llys.”
Mae’r tîm wedi agor 138 achos newydd dros y tri mis diwethaf, a’r prif broblemau yw niwsans sŵn, cam-drin geiriol a materion yn ymwneud â chyffuriau.
Sut i ddweud wrthym am ymddygiad gwrthgymdeithasol
Byddwn yn gadarn ond yn deg gyda digwyddiadau o ymddygiad gwrthgymdeithasol a byddwn yn rhoi cefnogaeth i chi i ddelio ag unrhyw anghydfod yn y gymdogaeth cyn iddo fynd yn waeth.
Gallwch ddweud wrthym am ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn un o’r ffyrdd canlynol:
- Cwblhewch y ffurflen i’r dde o’r dudalen hon (Dewiswch yr opsiwn priodol yn y blwch);
- Defnyddiwch y cyfleuster sgwrsio ar waelod y dudalen hon;
- E-bostiwch ni ar asb@melinhomes.co.uk
- Ffoniwch ni ar 01495 745910