Blwyddyn Brysur Arall i Leisiau Melin
Ym Melin, mae rhoi ein trigolion wrth galon ein penderfyniadau’n hanfodol. Rydym yn bodoli er mwyn creu cymunedau cryf, cydweithredol ac mae ymgynghoriad gyda thrigolion yn allweddol wrth beri i hyn ddigwydd. Dyma pam fod gyda ni grŵp Lleisiau Melin yr ydym yn gweithio’n agos â nhw trwy gydol y flwyddyn am amrywiaeth o faterion, o ariannu achosion da, at graffu ar ein cynlluniau ar gyfer y dyfodol. Mae croeso i bob un o’n trigolion ac maen nhw’n cael eu hannog i ymuno â’n grŵp Lleisiau ac rydym am rannu gyda chi'r holl beth y mae’r Lleisiau wedi gwneud dros y 12 mis diwethaf…
Ysgrifennwyd gan Will
—18 Hyd, 2022
Talebau Siopa
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae’r Lleisiau wedi rhoi bron i £12,000 o’u cyllideb at dalebau archfarchnadoedd i’r rheiny sydd mewn angen. Mae’r talebau yma’n rhoi cefnogaeth hanfodol i’n trigolion ar adeg o angen ac yn rhoi hyblygrwydd i dîm Cyngor Melin gael hyd i atebion mwy cynaliadwy ar gyfer aelwydydd sy’n wynebu anawsterau ariannol.
Ariannu cymunedol a rhoddion
Yn ogystal â’r talebau archfarchnadoedd, cefnogodd y Lleisiau amrywiaeth o achosion cymunedol eraill. Roedd y rhain yn cynnwys:
- Offer patio ar gyfer ein cynllun yn Hammett Court, Trefynwy
- Nwyddau garddio ar gyfer stryd breswyl: St Stephens, Porthsgiwed
- Bocsys Nadolig i blant sy’n byw yng nghymunedau Melin ledled y rhanbarth
- Noddi County in the Community; ymgysylltiad cymunedol Clwb Pêl-droed Newport County sy’n gweithio i roi cyfleoedd chwaraeon a chymdeithasol yng Nghasnewydd a’r ardaloedd cyfagos
- Cefnogi partneriaeth gyda Gofalwyr Ifanc Torfaen a welodd y Lleisiau’n prynu 20 o ddyfeisiau tabled i gefnogi gofalwyr ifanc â’u hastudiaethau
Craffu ar strategaeth Melin
Mae’r Lleisiau’n chwarae rhan bwysig wrth lunio strategaeth a pholisïau Melin i sicrhau ein bod yn parhau i weithio er budd ein trigolion. Mae’r Lleisiau wedi craffu ac wedi rhoi adborth ar:
- Ein hymgynghoriad ar y cynllun strategol
- Strategaeth datgarboneiddio Melin a map y ffordd ymlaen
- Polisi cwynion diwygiedig Melin
- Arolygon trigolion (pynciau’n cynnwys taliadau gwasanaeth ac ymddygiad gwrthgymdeithasol)
- Cyflwyno ein prosesau newydd fel rhan o gyflwyno Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru)
- Meysydd eraill mewn deddfwriaeth a pholisi Llywodraeth Cymru, gan gynnwys cytundeb model rhentu tai a’r safonau rheoleiddiol newydd ar gyfer cymdeithasau tai
Meysydd gwaith eraill
Yn ogystal â hynny oll, dros y flwyddyn ddiwethaf, mae’r Lleisiau hefyd wedi eistedd mewn cyfweliadau staff, wedi cwrdd ag Ymddiriedolaeth y Gofalwyr ac wedi cymryd rhan mewn hyfforddiant gyda TPAS Cymru.