Sero Net Sgiliau
Ymwelodd Gweinidog Economi a Sgiliau Llywodraeth Cymru, Vaughan Gething, â Melin i lansio ei Gynllun Sgiliau Sero Net newydd.
Ysgrifennwyd gan Sam
—06 Maw, 2023
Ymwelodd Gweinidog Economi a Sgiliau Llywodraeth Cymru, Vaughan Gething, â Melin i lansio ei Gynllun Sgiliau Sero Net newydd.
Nod y cynllun yw sicrhau y bydd gan blant heddiw a gweithwyr y sgiliau y bydd eu hangen arnyn nhw ar gyfer swyddi yfory ac roedd ganddo ddiddordeb mewn gweld sut mae Melin yn gweithio tuag at y nod hwnnw.
Cyfarfu Mr Gething â’r prentis drydanydd, Katie Hoddinott a Caethan Griffin, sydd hefyd yn brentis drydanydd, o’n partneriaeth cynllun prentisiaethau, Y Prentis.
Dangosodd Katie i’r gweinidog sut mae hi’n datblygu ei sgiliau wrth ddysgu am y dechnoleg werdd arloesol yr ydym yn rhoi prawf arni. Dangosodd i’r Gweinidog sut mae papur wall graffîn, isgoch newydd a grëwyd gan NexGen, ar brawf fel ffordd arloesol, economaidd ac amgylcheddol-gyfeillgar o wresogi cartrefi. Aeth y prentisiaid â’r gweinidog wedyn i stryd yng Nghwmbrân, ble mae’r cartrefi newydd gael paneli solar newydd wedi eu gosod arnynt ynghyd ag Inswleiddio Waliau Allanol a tho newydd ac inswleiddio yn y llofft.
Mae Katie Hoddinott ym mlwyddyn olaf prentisiaeth drydanol pedair blynedd. Dywedodd: “Rydw i wrth fy modd fy mod i, trwy wneud prentisiaeth, yn magu sgiliau i helpu pobl. Roeddwn i’n awyddus i ddechrau fy ngyrfa a nawr rwy’n cael profiad gwaith ac yn cael fy nhalu’r un pryd."
Mae dysgu sgiliau newydd fel cynnal a chadw paneli ffotofoltaidd a deall camau gwresogi ac inswleiddio arloesol eraill hefyd yn golygu fy mod yn diogelu fy ngyrfa ar gyfer y dyfodol gan fod technoleg werdd yn mynd i gael ei defnyddio fwyfwy.
Rydym am roi’r wybodaeth gywir, opsiynau a llwybrau gyrfa i bob dysgwr. Llwybrau sy’n annog ac yn ysgogi ein gweithlu presennol ac yn y dyfodol ac sy’n cynrychioli amrywiaeth ein cymunedau.
Choosing apprenticeships
Dangosodd ein prentisiaid anhygoel bod eu penderfyniad i ddysgu tra eu bod yn ennill arian, yn hytrach na dilyn cwrs prifysgol, wedi bod yn iawn iddyn nhw.
Mae ein hymrwymiad i ddyfodol carbon-niwtral yn golygu bod ein prentisiaid a’n staff yn cael eu hyfforddi a’u huwchsgilio i osod a chynnal technolegau newydd, gwyrddach a fydd nid yn unig o fudd i’r amgylchedd, ond yn fwy economaidd i’n trigolion hefyd.