Polisi Cwcis This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.
Tudalen Breifatrwydd

Yn ôl i newyddion

Arolwg Best Companies 2024

Ers 2017 rydym wedi cymryd rhan yn arolwg b-Heard, Best Companies. Eleni, fe wnaeth 90% o’r staff ymateb. Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth i fesur y ffordd y mae staff yn ymgysylltu, a deall sut mae ein staff yn teimlo, darganfod mwy am ble yr ydym yn rhagori, a ble y gallwn wneud newidiadau sydd o bwys.

Ysgrifennwyd gan Fiona

05 Gorff, 2024

Logo 'Best Companies' gyda 3 seren

Mae'r canlyniadau yn y sêr…

‘Llongyfarchiadau. Rydych chi wedi cael eich achredu fel sefydliad 3 Seren o'r radd flaenaf.’

Dyma'r newyddion a gawsom yr wythnos hon, sy'n rhagorol ac yn dyst i holl waith caled ein staff ymroddedig a gofalgar. Mae ein pobl yn gwybod ein bod yn anelu at wneud ein gorau i'n preswylwyr a'r cymunedau rydym yn gweithio gyda nhw.

Mae’n rhaid i ni aros tan fis Hydref i gael gwybod yn union ble ydym ni ar restr Best Companies ond gallwch fod yn sicr y byddwn yn rhannu'r newyddion gyda chi!

Aelodau staff Melin ar lwybran

Mae'r arolwg yn gyfrinachol, ond mae ein staff yn cael rhannu'r hyn maen nhw'n ei feddwl am weithio ym Melin. Dyma beth ddywedodd pobl pan ofynnwyd iddynt - Beth sy'n gwneud hwn yn lle gwych i weithio?

“Y bobl, y diwylliant, y gallu i wir helpu ein preswylwyr a gwneud gwahaniaeth i'w bywydau.”

“Mae Melin yn sefydliad gwych i weithio iddo. Mae'r sefydliad bob amser yn mynd cam ymhellach, i helpu staff, gwella lles a bod yn gyflogwr gwych.”

“Mae pawb eisiau helpu a gwneud gwahaniaeth.”

“Mae Melin yn gynhwysol iawn, ac mae lles ar frig y rhestr. Nid yw byth yn ormod o drafferth pan fydd angen gofyn am gyngor neu help gyda sefyllfa.”

“Cydweithwyr, y Prif Swyddog Gweithredol a'r Bwrdd. Mae’r sefydliad yn credu o ddifri bod staff sy'n cael eu gwerthfawrogi yn rhoi gwell gwasanaethau i'n preswylwyr. Mae’r cam ar y gweill i uno yn dangos uchelgais y sefydliad i roi mwy o gyfleodd i drigolion a chymunedau. Bydd cyfleoedd i staff hefyd.”

“Caraf y ffaith eu bod yn glynu'n ddiffuant at y weledigaeth a’r gwerthoedd, ac nad yw’n fater o wefus-lafur. Rwy'n teimlo y gallaf fod yn fi fy hun a bod hynny'n cael ei dderbyn. Rwy'n credu bod yr holl fentrau lles yn ardderchog.”

“Mae'r tîm rwy'n gweithio ynddo fel teulu ac rwy'n eu gwerthfawrogi bob dydd. Gallwch droi atynt am gymorth unrhyw adeg o’r dydd i gael yr atebion sydd eu hangen arnoch.”

Mae'r gwobrau hyn yn bwysig iawn i ni ym Melin oherwydd eu bod yn seiliedig ar sut mae staff wir yn teimlo am y lle maen nhw'n gweithio. Mae mor bwysig cael gweithlu sy’n ymgysylltu, lle mae pobl yn gwybod bod eu lleisiau'n cael eu clywed.

Rydym yn annog pobl i roi adborth fel y gallwn ddeall yr hyn yr ydym yn ei wneud yn dda a lle y gallwn wella.
Mae cael ein cydnabod fel sefydliad 3-seren yn dyst i'n pobl a'u holl waith caled. Rwyf mor falch ac yn edrych ymlaen at ddatblygu'r dysgu hwn yn ein sefydliad pan fyddwn wedi uno gyda Chartrefi Dinas Casnewydd.

Paula Kennedy — Prif Weithredwr Cartrefi Melin

Yn ôl i newyddion

Straeon eraill efallai yr hoffech eu gweld