Budd-daliadau a lwfansau dros y Nadolig
Pryd bydd budd-daliadau’r Nadolig yn cael eu talu?
Ysgrifennwyd gan Marcus
—20 Rhag, 2016
Pryd bydd budd-daliadau’r Nadolig yn cael eu talu?
Mae’r Nadolig ar ddydd Sul eleni sy’n golygu bod dydd Llun 26 Rhagfyr a dydd Mawrth 27 Rhagfyr yn wyliau banc.
Fel arfer, cewch eich talu ar y diwrnod gwaith olaf cyn unrhyw ŵyl y banc. Os yw eich Budd-dal Plant yn daladwy ar 26 Rhagfyr fe gewch eich talu ar 22 Rhagfyr. Ac os yw’n ddyledus i chi ar 27 Rhagfyr fe gewch eich talu ar 23 Rhagfyr.
Bydd Credyd Treth yn cael ei dalu mewn ffordd ychydig yn wahanol: os ydych yn derbyn y rhain rhwng 26-28 Rhagfyr, caiff pob taliad ei wneud ar 23 Rhagfyr yn lle.
Os ydych yn Lloegr, yr Alban a Chymru ac mae disgwyl i chi dderbyn credyd treth ar 29 Rhagfyr 2016, cewch eich talu ar 28 Rhagfyr 2016.