Yswiriant Cynnwys y Cartref
Os ydych chi’n denant sy’n rhentu, yna efallai na fydd eich landlord yn yswirio cynnwys y tŷ fel rhan o’r cytundeb tenantiaeth. Mae’n syniad da ystyried beth fyddai polisi yswiriant cynnwys y cartref yn yswirio ar eich rhan er mwyn i chi wybod a oes angen un arnoch chi.
Ysgrifennwyd gan Marcus
—01 Hyd, 2019
Os ydych chi’n denant sy’n rhentu, yna efallai na fydd eich landlord yn yswirio cynnwys y tŷ fel rhan o’r cytundeb tenantiaeth. Mae’n syniad da ystyried beth fyddai polisi yswiriant cynnwys y cartref yn yswirio ar eich rhan er mwyn i chi wybod a oes angen un arnoch chi.
Bwriad yswiriant cynnwys yw eich helpu i ddiogelu eich eiddo. Waeth pa mor ofalus ydych chi, mae yna berygl bob amser y gallai’ch eiddo gael ei dorri, ei ddifrodi neu ei ddwyn felly gall yswiriant gynnig tawelwch meddwl.
I’ch helpu i benderfynu a yw yswiriant cynnwys yn iawn i chi rydym wedi ymuno â Thistle Tenant Risks, ac Allianz Insurance plc sy’n darparu Cynllun Yswiriant Cynnwys My Home, polisi Yswiriant Cynnwys arbenigol i Denantiaid.
Gall Cynllun Yswiriant Cynnwys My Home gynnig yswiriant i chi ar gyfer eitemau fel dodrefn , carpedi, llenni, dillad, dillad gwely, eitemau trydan, gemwaith, lluniau ac addurniadau.
Sut mae cael mwy o wybodaeth?
- Gofynnwch i’ch swyddog tai lleol am becyn cais.
- Ffoniwch Thistle Tenant Risks ar 0345 450 7288
Fel arall, ewch i www.thistlemyhome‐cymru.co.uk am fwy o wybodaeth neu i ofyn am alwad ffôn.