Polisi Cwcis This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.
Tudalen Breifatrwydd

Yn ôl i newyddion

Cadw clwb ieuenctid lleol i fynd

Mae prosiect Arbed Cartrefi Cynnes Llywodraeth Cymru, gan weithio gyda Chyngor Merthyr Tudful, wedi buddsoddi dros £3.5 miliwn i wella effeithlonrwydd ynni 293 o gartrefi yn Twynyrodyn, Merthyr Tudful.

Ysgrifennwyd gan Valentino

23 Awst, 2016

Cadw clwb ieuenctid lleol i fynd

Mae prosiect Arbed Cartrefi Cynnes Llywodraeth Cymru, gan weithio gyda Chyngor Merthyr Tudful, wedi buddsoddi dros £3.5 miliwn i wella effeithlonrwydd ynni 293 o gartrefi yn Twynyrodyn, Merthyr Tudful.

Cafodd y cynllun ei gyflwyno gan Dîm Being Greener Cartrefi Melin, oedd hefyd yn gweithio gyda'r clwb ieuenctid lleol TAG i wella effeithlonrwydd ynni'r neuadd gymunedol y maent yn defnyddio. Trwy gyfraniadau gan gontractwyr a chyflenwyr, yn ogystal â llafur rhad ac am ddim oddi wrth y Grŵp Joyner, a leolir yn Risca, a'r rhodd o ddeunyddiau gan SPS Envirowall, buddsoddodd y tîm dros £21,000 i wella effeithlonrwydd ynni'r neuadd gymunedol. Mae mesurau gwella yn cynnwys gosod ffenestri a phlanwyr newydd, fel y gall y clwb dyfu ffrwythau a llysiau gyda'r plant.

Roedd y neuadd gymunedol wedi bod yn cael trafferth gyda biliau ynni uchel a heb gymorth Dywedodd Callum, un o ymddiriedolwyr yn y Ganolfan TAG, "Gallwn ni ddim diolch i'r prosiect Arbed Cartrefi Cynnes Llywodraeth Cymru a chontractwyr fframwaith a chyflenwyd y Tîm Being Greener digon, yn enwedig Grŵp Joyner a SPS Envirowall. Mae'r adeilad nid yn unig yn edrych yn anhygoel, ond mae ein biliau ynni wedi cael eu haneru. Mae hyn yn golygu y gall arian gael ei wario ar weithgareddau ar gyfer y cannoedd sy’n defnyddio’r ganolfan gymunedol".

Ymwelodd Dawn Bowden AC â’r Clwb Ieuenctid i weld manteision y prosiect ei hun. "Rwy'n falch iawn o weld bod y prosiect Cartrefi Cynnes Llywodraeth Cymru yma ym Merthyr Tudful wedi darparu cymaint o eiddo gydag inswleiddio waliau allanol, a thrwy hynny wedi gwella effeithlonrwydd ynni’r cartrefi hyn. Mae'r ganolfan TAG wedi cael hwb mawr ei angen i ddisodli'r ffenestri oedd wedi torri, gosod insiwleiddio yn y waliau allanol a gwella’r ymddangosiad cyffredinol gyda'r ddarpariaeth o blanhigion a phlanwyr. Bydd y gwaith hwn nid yn unig yn gwneud y Ganolfan TAG yn le mwy dymunol i fod, ond bydd yn sicrhau bod y biliau ynni yn cael eu lleihau, gan fuddio’r ganolfan a'i defnyddwyr ymhellach".

Ychwanegodd Prif Weithredwr Cartrefi Melin, Mark Gardner: "Mae’r effaith a wnaed gan y prosiect Arbed Cartrefi Cynnes Llywodraeth Cymru wedi bod yn enfawr, ac rydym mor falch o'n rhan yn ei lwyddiant. Rydym hefyd yn falch o brosiectau cymunedol fel hyn ac yn sicrhau eu bod wrth wraidd popeth a wnawn."


Yn ôl i newyddion