Cartrefi Melin yn ennill gwobr TG genedlaethol am weithlu hyblyg
Mae Cartrefi Melin wedi ennill 'Prosiect Trawsnewid Gweithle y Flwyddyn' yng Ngwobrau Diwydiant TG y DU mewn seremoni wobrwyo yr wythnos hon yn Llundain.
Ysgrifennwyd gan Sam
—21 Tach, 2016
Drwy'r prosiect, mae Melin wedi creu 'gweithlu hyblyg' go iawn gan ddefnyddio technoleg flaengar, llawer o waith caled a chryn lawer o agwedd 'fe allwn wneud'. Mae'r prosiect wedi cael ei seilio ar alluogi staff Melin i weithio'n fwy craff ac ymgymryd â'u swyddi o unrhyw le. Mae staff rheng flaen yn awr yn gweithio ar dabledi, gan ddefnyddio meddalwedd integreiddiol i leihau'r angen i ymweld â'r swyddfa bob dydd, mae eu Bwrdd erbyn hyn yn gwbl ddi-bapur a gall staff weithio o gartref, neu unrhyw safle hyblyg arall, gan ganiatáu rhyddid iddynt i weithio'n gwbl hyblyg. Ochr yn ochr â'r newidiadau technolegol oedd eu hangen i gyflwyno'r prosiect hwn, mae staff wedi croesawu'r newid diwylliannol enfawr i fod yn weithlu gwbl hyblyg.
Meddai Sharon Crockett, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Ymgynghoriaeth Busnes, a anerchodd y panel beirniadu ac a fynychodd y seremoni wobrwyo; "Roeddem yn gwybod bod gennym ymgais gref ond rydym ill dau yn hynod falch ac yn synnu braidd ein bod wedi ennill y wobr bwysig hon, yn enwedig o ystyried yr enwau llawer mwy oedd yn ein herbyn yn y categori. Mae'n destament i'n tîm technoleg am yr holl waith caled maent wedi'i wneud, ond mae’r diolch hefyd i’n staff sydd wedi mynd amdani o ddifri i'n gwneud yn wirioneddol hyblyg. Mae wedi bod yn daith anhygoel, ond wrth gwrs, nid yw drosodd eto "
Dywedodd Paul Fletcher, Prif Swyddog Gweithredol Grŵp BCS, Sefydliad Siartredig TG: "Llongyfarchiadau i'r holl enillwyr a'r rhai a gafodd ganmoliaeth uchel yng Ngwobrau Diwydiant TG y DU 2016. Mae BCS, Sefydliad Siartredig TG yma i wneud TG yn dda i gymdeithas ac mae'r Gwobrau yn rhan fawr o hyn. Maent yn cydnabod y lefelau uchaf o broffesiynoldeb ac arloesedd yn y sector TG. Roedd safon y ceisiadau a ddaeth i law eleni yn uchel iawn, ond roedd yr enillwyr yn sefyll allan fel ymgeiswyr eithriadol ac ysbrydoledig, a dylent fod yn falch iawn o'u llwyddiant. "
Mae BCS a Gwobrau Diwydiant TG y DU yn llwyfan i’r proffesiwn cyfan, i ddathlu arfer gorau, arloesedd a rhagoriaeth. Roedd y gwobrau eleni yn cynnwys 25 o gategorïau yn cwmpasu: prosiect, trefniadaeth, technoleg a rhagoriaeth unigol. Roedd y categorïau’n agored i sefydliadau ac unigolion sy’n gysylltiedig â TG ar draws y sectorau cyhoeddus, dielw a masnachol.