Cartrefi Melin yn llwyddo yn ei ddyfarniad blynyddol ar hyfywedd ariannol
Mae Llywodraeth Cymru unwaith eto wedi dyfarnu 'llwyddiant' i ni yn ei ddyfarniad blynyddol ar hyfywedd ariannol y sefydliad. Fel rhan o broses ehangach Asesiad Rheoleiddiol ar gyfer Cymdeithasau Tai (Hara), ystyriodd Llywodraeth Cymru ein cyfrifon ariannol archwiliedig, cynllun busnes a'n rhagolygon ariannol yn y tymor hir.
Ysgrifennwyd gan Marcus
—05 Chwef, 2016
Mae Llywodraeth Cymru unwaith eto wedi dyfarnu 'llwyddiant' i ni yn ei ddyfarniad blynyddol ar hyfywedd ariannol y sefydliad. Fel rhan o broses ehangach Asesiad Rheoleiddiol ar gyfer Cymdeithasau Tai (Hara), ystyriodd Llywodraeth Cymru ein cyfrifon ariannol archwiliedig, cynllun busnes a'n rhagolygon ariannol yn y tymor hir.
Dywedodd y Dirprwy Brif Weithredwr, Peter Crockett; "Mewn cyfnod ariannol heriol i bawb, mae'n braf bod Llywodraeth Cymru wedi cydnabod bod ein cyllid cyfredol a rhagamcanol yn gadarn, a'n bod yn medru parhau i ddarparu ar gyfer ein trigolion a chyfranddalwyr. Mae gennym gynllun uchelgeisiol ar gyfer gwella cartrefi; gwasanaethau newydd a chartrefi newydd a rhydd y fath ddyfarniad hyder i breswylwyr a phartneriaid y byddwn yn medru cyflawni'r cynlluniau hyn."