Cefnogi ysgolion
Yr wythnos yma gwnaeth ein rhaglen ysgolion – FACE rodd fawr i gynllun Yn ôl i’r Ysgol y Cynghorydd Giles Davies yn Nhorfaen. Rhoddon ni 250 o flychau pensiliau, 100 o badiau ysgrifennu, 120 naddwr, 100 pren mesur, 120 ffon glud, 50 cyfrifiannell gwyddonol a 2,500 o bennau ysgrifennu! Roedd ein rhodd yn werth bron i £900.
Ysgrifennwyd gan Valentino
—22 Medi, 2020
Yr wythnos yma gwnaeth ein rhaglen ysgolion – FACE rodd fawr i gynllun Yn ôl i’r Ysgol y Cynghorydd Giles Davies yn Nhorfaen.
Rhoddon ni 250 o flychau pensiliau, 100 o badiau ysgrifennu, 120 naddwr, 100 pren mesur, 120 ffon glud, 50 cyfrifiannell gwyddonol a 2,500 o bennau ysgrifennu! Roedd ein rhodd yn werth bron i £900.
Am ein Cynllun Ysgolion, dywedodd Trisha Hoddinott: “Efallai na fyddwn ni’n gallu mynd â’n rhaglen ysgolion i mewn i ystafelloedd dosbarth ar hyn o bryd, ond rydym yn falch ein bod yn dal i allu helpu a gwneud gwahaniaeth.”
Dywedodd y Cynghorydd Giles Davies am y rhodd: “Waw, doeddwn i ddim yn disgwyl cymaint o eitemau, diolch yn fawr iawn. Bydd pob dim yn cael ei rhoi i Ysgol Gynradd Garnteg i blant y mae eu rhieni yn ei chael yn anodd darparu cyfarpar i’w plant yn ystod Covid-19.”
Mae ein rhaglen ysgolion yn dal i helpu ysgolion ac, ers i ni lansio’r prosiect, rydym wedi helpu 2,932 o ddisgyblion, 477 o athrawon a 32 o ysgolion.
Rydym yma o hyd i gynnig help a chyngor i athrawon a disgyblion – ond bydd ein gwasanaeth yn edrych ychydig yn wahanol. Rydym wedi bod yn estyn allan at ein hysgolion partner ac yn awyddus i athrawon adael i ni wybod sut allwn ni eu cefnogi. Mae rhai o’r syniadau newydd yr ydym yn eu lansio, a fydd yn cael eu cynnig ar-lein yn cynnwys; technegau cyfweliadau disgyblion, sgyrsiau gyrfa, gwersi rhithiol ar yrfaoedd, gweminarau ar sut y bu rhaid i ni newid fel busnes a gweithdai lles.
Efallai bod y dyfodol yn edrych ychydig yn wahanol ond rydym dal yma i gefnogi ein hysgolion, athrawon a disgyblion. Os oes gennych chi ddiddordeb yn ein rhaglen ysgolion ac yn: Casnewydd; Blaenau Gwent; Torfaen; Sir Fynwy neu Bowys, cysylltwch trwy e-bostio schools@melinhomes.co.uk.