Dathlu Wythnos Gwasanaethau Cwsmeriaid 2024: Rhoi ein preswylwyr yn gyntaf
Ym Melin credwn fod gwasanaeth cwsmeriaid eithriadol yn fwy nag ymateb yn unig, mae'n addewid i'n trigolion, rhanddeiliaid a staff i roi pobl yn gyntaf. Yr wythnos hon, Hydref 7-13 rydym yn dathlu Wythnos Gwasanaethau Cwsmeriaid 2024 a myfyrio ar sut yr ydym yn sicrhau bod anghenion, profiadau a lles ein pobl yn cael eu rhoi wrth wraidd popeth a wnawn.
Ysgrifennwyd gan Will
—07 Hyd, 2024
Mae Melin yn gwasanaethu ystod amrywiol o gymunedau ar draws de-ddwyrain Cymru, a pob un ohonynt yn wynebu heriau unigryw. Drwy feithrin diwylliant o ofal, rydym yn sicrhau, pan fydd rhywun yn estyn allan atom, y byddwn ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu i roi ein hunain yn eu hesgidiau a ‘dod o hyd i ffordd’ o ddatrys y problemau sydd ganddynt.
Y pwynt cyswllt cyntaf: Ein Tîm Cyswllt Cwsmeriaid (TCC)
Pan fydd preswylwyr yn estyn allan atom ni, p'un ai dros y ffôn, mewn e-bost, ar WhatsApp neu'r cyfryngau cymdeithasol, ein Tîm Cyswllt Cwsmeriaid ymroddedig yw’r bobl gyntaf y byddant yn siarad â nhw. Mae'r tîm hwn yn bont rhwng ein preswylwyr a’r nifer o wasanaethau yr ydym yn eu darparu, gan sicrhau ein bod yn delio ag ymholiadau mewn ffordd effeithlon, a gyda gofal.
Roedd y llynedd, fel erioed, yr un mor brysur i'n TCC, fe gawson nhw:
53,433 o alwadau
40,238 o e-byst
3,800 o negeseuon testun
1,644 o negeseuon WhatsApp
380 o sgyrsiau byw ar y we
A mwy na 400 o negeseuon cyfryngau cymdeithasol
Rydym yn falch iawn ein bod yn gallu datrys y rhan fwyaf o ymholiadau gan ein preswylwyr ar y pwynt cyswllt cyntaf. Rydym yn gwybod bod gennym ymholiadau cymhleth weithiau, neu, ar adegau, bod angen i breswylwyr ddod yn ôl atom ni. Rydym wedi ymdrechu i wella ein hamserau i ddychwelyd galwadau a phan na fydd pethau'n mynd yn iawn, mae gennym weithdrefn gwyno newydd a chadarn yr ydym wedi'i lansio mewn partneriaeth agos ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.
Ymdrech tîm cyfan
Efallai bod TCC ar flaen y gad o ran darparu gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid, ond gwyddon ni ei fod yn ymdrech ar y cyd gan y tîm cyfan. Mae pawb sy'n gweithio ym Melin yn ymroddedig i'n dull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ac rydym yn gwybod ein bod ni i gyd yn chwarae rhan ym mhrofiad gwasanaeth cwsmeriaid.
Mae ein Tîm Cynaliadwyedd Tenantiaeth yn chwarae rhan hanfodol drwy sicrhau y gall preswylwyr sy'n agored i niwed aros yn eu cartrefi a chael y cymorth sydd ei angen arnynt. Mae'r tîm yn gweithio'n agos gyda phreswylwyr a allai fod yn wynebu anawsterau ariannol, pryderon iechyd, neu heriau bywyd eraill. Maent yn chwarae rhan bwysig drwy sicrhau bod cymunedau Melin yn wydn, a’n preswylwyr yn gallu ffynnu.
Y llynedd, fe wnaeth y tîm:
Gynorthwyo 214 o breswylwyr, gan gynnig cymorth personol yn amrywio o alwadau lles a chymorth gyda budd-daliadau, i drefnu apwyntiadau meddygol
Cynnal 562 o ymweliadau i roi cymorth yn y fan a’r lle yng nghartrefi preswylwyr
Gweithio mewn partneriaeth gydag awdurdodau lleol, gwasanaethau cymdeithasol, timau iechyd meddwl cymunedol, a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru i ymestyn cefnogaeth y tu hwnt i faterion tai
Rhan arall o'n cynnig gwasanaeth cwsmeriaid sy’n hanfodol i breswylwyr yw’r gwaith y mae ein timau cynnal, cadw ac atgyweirio yn ei wneud i gadw preswylwyr yn gyfforddus ac yn ddiogel yn eu cartrefi. O atgyweiriadau brys i waith cynnal a chadw arferol, mae'r tîm bob amser wrth law, gan gynnwys y tu allan i oriau ac ar benwythnosau.
Dyma ond rhai o'r cyflawniadau allweddol a gofnodwyd gan ein timau medrus y llynedd:
4,987 o atgyweiriadau brys, gyda 95% o'r rhain yn cael datrys o fewn ein targed o 48 awr
11,887 o atgyweiriadau cyffredin, gyda 86.7% o breswylwyr yn mynegi boddhad â'r gwaith a gwblhawyd
Cwblhau 4,386 o wasanaethau nwy, gyda 93.6% yn mynegi boddhad
Yn ogystal â hyn, fe wnaethom hefyd wella ein hamser ar gyfartaledd i gwblhau atgyweiriadau; o 28.3 diwrnod i 23.1 diwrnod, gan symud yn agosach fyth at ein targed o 20 diwrnod.
Y tu hwnt i gynnal ein heiddo, rydym wedi ymrwymo i feithrin cymunedau ffyniannus. Mae ein Tîm Cymdogaeth yn gweithio'n agos gyda phreswylwyr i fynd i'r afael ag ymholiadau o ddydd i ddydd ac yn rheoli ein cartrefi a'n cymdogaethau. Mae hyn yn cynnwys delio â phroblemau parcio a helpu preswylwyr i symud neu gyfnewid cartref. Gweithio i fynd i'r afael â’r argyfwng tai yng Nghymru yw un o elfennau mwyaf eu gwaith.
Y llynedd, fe lwyddon nhw i wneud gwahaniaeth go iawn, a gweithio mewn partneriaeth â rhanddeiliaid tai i:
Ddod o hyd i gartrefi i 162 o deuluoedd/unigolyn, gan sicrhau bod y rhai sy'n aros ar restrau tai yn gallu dod o hyd i gartrefi.
Cynorthwyo 42 o aelwydydd i gyfnewid cartref, gan hwyluso symudiadau naill ai o fewn Melin neu i gymdeithasau tai eraill
Dyrannu 64 eiddo i bobl oedd yn wynebu digartrefedd
Edrych ymlaen:
Wrth i Melin symud tuag at ei fwriad i uno gyda Chartrefi Dinas Casnewydd, rydym ni am dawelu meddyliau preswylwyr y bydd gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol a dull sy'n canolbwyntio ar bobl yn parhau i fod yn flaenoriaeth i’r sefydliad newydd. Mae ein hymgynghoriad â phreswylwyr sef 'Addewid i Gwsmeriaid' y gymdeithas newydd yn dangos ein hymrwymiad i hyn. Rydym yn parhau i fod yn angerddol am ddarparu gwasanaethau rhagorol i'n preswylwyr a sicrhau bod ein holl bobl yn cael eu cefnogi bob cam o'r ffordd wrth ddelio â ni.