Cyhoeddi Prif Swyddog Gweithredol
Ar Ein Gorau Gyda’n Gilydd: Cartrefi Melin a Chartrefi Dinas Casnewydd
Ysgrifennwyd gan Sam
—11 Ebr, 2024
Cyhoeddi Prif Swyddog Gweithredol
Ychydig fisoedd yn ôl, cyhoeddom ein bod yn archwilio ffyrdd o uno Cartrefi Melin a Chartrefi Dinas Casnewydd i greu sefydliad newydd. Rydyn ni nawr wrth ein boddau i allu dweud bod Byrddau Melin a Chartrefi Dinas Casnewydd wedi penodi Darpar Brif Swyddog Gweithredol ar gyfer y Grŵp.
Yn dilyn proses asesu drwyadl, derbyniodd Paula Kennedy, Prif Swyddog Gweithredol Cartrefi Melin, y cynnig, gan ddweud mor bwysig yw adeiladu ar y gorau o Gartrefi Melin a Chartrefi Dinas Casnewydd i ddiffinio sut fydd y mudiad newydd yn edrych. Diolchodd hefyd i Ceri Doyle, Prif Swyddog Gweithredol Cartrefi Dinas Casnewydd am ei chymorth wrth symud y rhaglen uno ymlaen i’r pwynt hwn.
Penderfynodd Ceri Doyle i beidio â chymryd y rôl am gyfuniad o resymau personol a phroffesiynol. Serch hynny, mae’n dal i ymrwymo i’r syniad o uno a buddion hynny i’r sector yng Nghymru ac i gwsmeriaid, cydweithwyr a chymunedau sy’n cael eu gwasanaethu gan Gartrefi Melin a Chartrefi Dinas Casnewydd, ac yn gyffrous iawn ynghylch y syniad.
Bydd Ceri a Paula yn parhau i weithio mewn partneriaeth, gyda chefnogaeth byrddau Cartrefi Dinas Casnewydd a Chartrefi Melin, er mwyn cyflawni’r rhaglen uno.
Rydyn ni’n ysgrifennu at ein holl drigolion i roi gwybodaeth bellach am y broses a byddwn yn rhoi’r cyfle i bawb sy’n byw yn un o gartrefi Melin neu Gartrefi Dinas Casnewydd i ddweud wrthym am y gwasanaethau a’r gwerthoedd y maen nhw am eu gweld yn y sefydliad newydd arfaethedig.
Mae trigolion a staff wrth galon y ddau fusnes o hyd, ac edrychwn ymlaen at eich diweddaru ymhellach wrth i’r broses uno fynd rhagddi.