Gweinidog Newid yn yr Hinsawdd, Julie James yn ymweld â’n treial gwresogi arloesol
Ymwelodd y gweinidog Julie James ag un o’n hadeiladau treial arloesol yn Nhredegar heddiw. Rydym yn treialu technoleg papur wal gwresogi newydd yn un o’n heiddo, sy’n ystyried opsiynau amgen CO2 isel fforddiadwy yn lle rheiddiaduron a phympiau gwres i gadw trigolion yn gynnes. Mae’r system wedi ei phrofi a’i dilysu gan Brifysgol Abertawe.
Ysgrifennwyd gan Fiona
—31 Mai, 2022
Ymwelodd y gweinidog Julie James ag un o’n hadeiladau treial arloesol yn Nhredegar heddiw. Rydym yn treialu technoleg papur wal gwresogi newydd yn un o’n heiddo, sy’n ystyried opsiynau amgen CO2 isel fforddiadwy yn lle rheiddiaduron a phympiau gwres i gadw trigolion yn gynnes. Mae’r system wedi ei phrofi a’i dilysu gan Brifysgol Abertawe.
Gellir plygio Gwres Is-goch Graffin NexGen, sy’n edrych ac yn teimlo yn union fel papur wal traddodiadol, i mewn i soced ddomestig, ac mae’n dod gyda phaneli solar a batri clyfar, sy’n golygu ei fod yn torri allyriadau i sero net ac yn gostwng costau tanwydd yn fawr iawn. Wedi ei osod ar waliau, nenfydau neu o dan y llawr, mae’r dechnoleg yn anweladwy i drigolion ac yn darparu dull arloesol o gynhesu ystafelloedd unigol yn llawer cyflymach, gan roi cyfle iddyn nhw reoli eu cyllidebau ynni yn llawer mwy effeithiol.
Gyda chostau ar gynnydd, mae gwneud ein cartrefi’n fwy ynni-effeithiol yn delio ag argyfwng yr hinsawdd ac yn helpu teuluoedd i oroesi’r argyfwng costau byw.
Ychydig dros flwyddyn yn ôl, cyhoeddodd y Prif Weinidog ei fod am i’r amgylchedd a newid hinsawdd fod yn ganolog i holl flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ac wrth i ni weithio i greu Cymru gryfach, tecach a gwyrddach, dwi’n disgwyl ymlaen yn fawr at weld sut y gallai cynnyrch arloesol fel y rhain ein helpu i wireddu ein huchelgais.
Mae’r system yn defnyddio cyfuniad o wres isgoch tonfedd hir a darfudiad a dim ond dau ddiwrnod neu dri sydd ei eisiau i’w gosod. Mae’n system lawer fwy cost-effeithiol na phwmp gwres. Mae Adran yr Economi Llywodraeth Cymru hefyd yn gweithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen a NexGen i ystyried y cyfleoedd i’r cwmni sefydlu canolfan weithgynhyrchu yn yr ardal leol.
Meddai Paula Kennedy, Prif Weithredwr Cartrefi Melin:
“Mae ein trigolion eisoes yn teimlo effeithiau’r argyfwng costau byw a’r argyfwng hinsawdd a dyna pam rydyn ni wedi gosod y nod uchelgeisiol i ni fod yn gymdeithas Sero Net erbyn 2050. Rydyn ni’n deall bod rhaid i ni weithredu nawr, felly rydyn ni wedi ymuno â NexGen a chymdeithasau tai eraill i chwilio am ffyrdd newydd gwyrddach a rhatach o wresogi’n cartrefi.
“Byddwn yn dal i weithio gyda nhw i dreialu technolegau newydd all helpu ein trigolion ni, a thrigolion ledled Cymru. Rydyn ni’n falch hefyd o gael bod yn rhan o’r mewnfuddsoddiad i sefydlu ffatri ac yn disgwyl ymlaen at weld y cyfleoedd a ddaw drwy hynny i Gymru. Rydym yn cael trafodaethau gyda landlordiaid cymdeithasol cofrestredig eraill ac awdurdodau lleol sydd wedi dangos diddordeb mewn treialu’r system wres yma.”
Nodiadau: Nid yw system Wres Is-goch Graffin NextGen ar gael ar hyn o bryd i’w phrynu fel system cartref sengl ond gall fod ar gael i’r cyhoedd yn gyffredinol yn y dyfodol, unwaith y bydd y treialon tai cymdeithasol wedi eu cwblhau.