Codi dros £16,000 ar gyfer Hosbis St David
Fe gefnogon ni Gofal Hosbis St David yn ystod 2019 a 2020. Trwy noddi digwyddiad, codi arian yn y swyddfa (pan oedd modd) a chodi arian ar-lein, llwyddodd Melin a’n staff hael i godi £16,599.38 clodwiw ar gyfer yr elusen.
Ysgrifennwyd gan Fiona
—10 Chwef, 2021
Fe gefnogon ni Gofal Hosbis St David yn ystod 2019 a 2020. Trwy noddi digwyddiad, codi arian yn y swyddfa (pan oedd modd) a chodi arian ar-lein, llwyddodd Melin a’n staff hael i godi £16,599.38 clodwiw ar gyfer yr elusen.
Cafodd staff hyd i ffyrdd arloesol o godi arian; cynnal brecwastau rhithwir, raffl, prynu bathodynnau i’r staff i gyd, a hyd yn oed tynnu i mewn yr Uwch Dîm Rheoli i gwblhau heriau yn lle rhoddion at ein tudalen codi arian i’r elusen. Yn ystod yr amserau anodd yma, mae hyn wedi bod o fudd i staff, gan ddod a thimau at ei gilydd, gan bwysleisio’n arwyddair Gyda’n Gilydd. Pwy sydd ddim yn hoff o weld uwch staff yn gwneud heriau TikTok, her malws melys a hyd yn oed yr her bwced iâ – yn enwedig er budd elusen. Rhoddodd y tîm ffrwythau ffres i’r staff a’r cleifion yn yr hosbis hefyd.
Dywedodd Kris Broome o Ofal Hosbis St David “Roedden ni wrth ein bod pan glywson ni mai ni oedd elusen enwebedig cartrefi Melin. Roedd gweithio gyda’r tîm ym Melin yn bleser, roedden nhw bob amser yn hapus i glywed am ein syniadau codi arian ac am wybod mwy fel y gallen nhw ddweud wrth ei staff. Nid yn unig fe gymeron nhw ran mewn nifer o weithgareddau, roedden nhw’n fodlon ystyried noddi digwyddiadau ac ymgyrchoedd yr oedden ni wedi eu datblygu. Hoffem gymryd y cyfle hwn i estyn diolch i bawb oddi wrth Ofal Hosbis St David.”
Dywedodd Prif Weithredwr Melin, Paula Kennedy: "Mae nifer o bobl wedi colli perthynas neu ffrind a oedd â chyflwr sy’n byrhau bywyd ac rwy’ wedi clywed pa mor wych yw’r gofal y maen nhw’n rhoi i gefnogi pobl. Fel elusen, does dim modd iddyn nhw wneud y gwaith ardderchog yma heb yr angen parhaus i godi arian ac ym Melin roedden ni am fynd yr ail filltir i’w cefnogi am ddwy flynedd, ac rwy’n hynod o falch o’n staff a’r symiau y maen nhw wedi codi.”
Rydym eisoes wedi noddi’r Tour De Gwent sydd i fod i ddigwydd yn nes ymlaen y flwyddyn yma, ac mae gennym dîm o staff sy’n ysu i gymryd rhan.
Tynnwyd y lluniau yma cyn COVID-19.