Codi’r to 1,000 o weithiau!
Gwnaeth CPD Tranch, clwb pêl-droed cymunedol ym Mhont-y-pŵl gais i’n cronfa gymunedol a chael £500 o gronfa Jump 2 a £500 o gronfa arbennig Melin 10, grant sydd ond ar gael eleni i ddathlu ein bod yn Ddeg oed!
Ysgrifennwyd gan Fiona
—21 Medi, 2017
Etifeddodd CPD Tranch adfail a chae oddi wrth Gyngor Torfaen tair blynedd yn ôl. Ers hynny mae CPD Tranch wedi bod yn codi arian yn ddiflino er mwyn adeiladu estyniad, ac i ddefnyddio’r lle ar gyfer y gymuned ehangach. Trwy dynnu tîm o wirfoddolwyr at ei gilydd cafodd y grŵp seiliau i’r estyniad.
Serch hynny roedd arian yn prinhau ac er gwaethaf apeliadau am gymorth, roedd y grŵp yn rhedeg allan o opsiynau. Camodd ein tîm cynaliadwyedd i’r adwy a helpu CPD Tranch i wneud cais i’r gronfa grantiau cymunedol, cydlynu’r prosiect budd cymunedol a sicrhau help Robert Price, Cwmbrân o oedd yn fwy na bodlon i roi defnyddiau ar gyfer y to. Mae’r arian wedi galluogi’r tîm gwirfoddol i wneud yr adeilad yn ddwrglos cyn y gaeaf.
Dywedodd Trish Hoddinott, o’r Tîm Cynaliadwyedd “Roeddem ni mor falch ein bod ni’n gallu helpu. Mae’r arian wedi gwneud gwahaniaeth mawr i’r clwb a’r cartrefi yn yr ardal gyfagos. Mae gyda ni dair ystâd a fydd yn gallu defnyddio’r cyfleuster yma: Cwrt Afallon, Enciliad Sant Dominic a Chlos yr Ysgol.”
Dywedodd aelod o’r pwyllgor, Neil Worwood; “Mae gan y prosiect yma le arbennig yn fy nghalon, rydym yn chwarae gemau pob wythnos ac rydym yn cynllunio agoriad mawr i’r clwb yn y gwanwyn. Mae’n diolch ni i Gartrefi Melin, a’r staff sydd wedi ein cefnogi ni gymaint.”
Dywedodd Paula Kennedy, Prif Weithredwr Cartrefi Melin Homes “Mae gallu cefnogi cynllun mor bwysig yn bwysig iawn i ni. Ni dim ond darparu cartrefi fforddiadwy ydym ni, rydym ni’n sicrhau ein bod ni’n helpu pobl a bod cymunedau’n ffynnu.”
Os hoffech chi gefnogi CPD Tranch neu os ydych am ddefnyddio’r cae a’u cyfleusterau, ffoniwch Neil ar 01633 862800.