Cwmni lleol Gibson STS yn uwchsgilio, o ganlyniad i gydweithio
Mae gyda ni drefniadau gwych ar gyfer cydweithio gyda mentrau bach a chanolig lleol.
Ysgrifennwyd gan Fiona
—21 Medi, 2017
Yn ddiweddar cynorthwyon ni gwmni lleol i roi staff ar Dystysgrif NVQ Lefel 7 mewn Uwch Reolaeth Adeiladu (Edexcel). Ar ôl gweithio’n agos gyda Gibson STS o Ben-y-bont ar Ogwr, daeth yn amlwg i’n tîm Dysgu y byddai’r cwmni a’r cytundebau y maen nhw’n gweithio arnyn nhw yn elwa o uwchsgilio staff.
Trefnodd Karen Green, Prif Swyddog Dysgu a Datblygiad ym Melin ac arbenigwraig mewn hyfforddiant ac ariannu, gyfarfod rhwng y cwmni a Choleg Y Cymoedd.
Diolch i raglen Uwchsgilio@Waith, a gefnogir gan Gronfa Gymdeithasol Ewropeaidd trwy Lywodraeth Cymru mae 70% o’r cwrs wedi ei ariannu.
Dywedodd Peter Williams, Uwch Reolwr Technegol yn Gibson STS sydd newydd ddechrau’r cwrs ”Mae hwn yn gyfle gwych i addysgu’r tîm, bydd yn rhoi persbectif gwahanol ac yn ein helpu i reoli tasgau’n fwy effeithiol.”
Dywedodd Karen Green, Cartrefi Melin “Mae hwn yn gyfle gwych i gwmnïau i uwchsgilio. Mae ariannu trwy raglenni fel hyn mor bwysig nid yn unig i ddatblygiad unigol ond i ddatblygiad mentrau bach a chanolog hefyd.”