Cyfle i weithio am gyflog gyda Bod yn Wyrddach
Ydych chi’n byw yn rhywle ym Mlaenau Gwent nad sydd yn ardal Cymunedau’n Gyntaf? Ydych chi dros 25? Ydych chi wedi bod allan o waith am dros flwyddyn?
Ysgrifennwyd gan Marcus
—09 Chwef, 2017
Os felly, efallai bydd gennym ni gyfle am waith cyflogedig yn ein tîm Bod yn Wyrddach yng Nghartrefi Melin.
Mae gennym ni swydd Cynorthwyydd Gweinyddol ar gael am 26 wythnos i ddechrau ar yr isafswm cyflog cenedlaethol. Mae’r swydd am 21 awr yr wythnos ac efallai y gall arwain at swydd llawn amser yn ddibynnol ar gyllid.
Os oes gennych chi ddiddordeb
e-bostiwch melinworks@melinhomes.co.uk neu ffoniwch dîm Melin Works ar 01495 745910.