Cyfraniadau staff Melin yn helpu i newid bywydau
Mae cronfa cymunedol Cartrefi Melin Jump 2+ wedi rhoi dros £1560 i achosion da yn ddiweddar.
Ysgrifennwyd gan Sam
—18 Ion, 2017
Mae cronfa cymunedol Cartrefi Melin Jump 2+ wedi rhoi dros £1560 i achosion da yn ddiweddar. Gwnaeth un o’r trigolion a oedd wedi cael amser caled gais i Jump2+ i gael arian i droi ei bywyd o gwmpas a dechrau busnes newydd. Bydd yn derbyn £995 er mwyn ariannu Diploma Lefel 3 mewn dysgu Yoga (Gwobrau YMCA). Bydd trigolion hŷn yng nghartrefi gwarchodedig Melin hefyd yn elwa gan ei bod wedi cynnig sesiynau yoga am ddim iddyn nhw.
Mae’r elusen plant lleol TOGs hefyd yn mynd i elwa o Jump2+ wrth iddyn nhw gael dros £560 tuag at greu gardd synhwyraidd o flaen eu hadeilad. Bydd yr elusen o’r Dafarn Newydd yn trawsnewid y gofod tu allan gyda thema’r jyngl a bydd gwahanol lefelau i’r ardd a phrofiadau arogli a chyffwrdd i’r plant wrth iddyn nhw fynd i mewn i‘r adeilad. Mae tîm cymunedau Melin hefyd wedi trefnu i’r elusen Growing Spaces i gwblhau’r gwaith gan fod gyda nhw brofiad helaeth o greu gerddi synhwyrol.
Dywedodd Dirprwy Prif Weithredwr Melin Peter Crockett; “Mae staff Melin yn cyfrannu’n rheolaidd at Jump2 trwy ddiwrnodau dillad pob dydd, diwrnod golff blynyddol a noson gwis Melin ac maen nhw’n falch bod eu harian yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl”.