Cymuned yw popeth
Rydym yn sylweddoli pwysigrwydd cefnogi cymunedau lleol ac mae hyn wrth galon pob peth a wnawn. Rydym wedi sefydlu cronfa cymunedau cynaliadwy y mae contractwyr sy’n gweithio gyda ni’n cyfrannu ati, mae’r arian yma’n helpu i gefnogi ein prosiect ysgolion, FACE, ac yn ein galluogi i gefnogi ein hysgolion partner.
Ysgrifennwyd gan Fiona
—09 Rhag, 2020
Rydym yn sylweddoli pwysigrwydd cefnogi cymunedau lleol ac mae hyn wrth galon pob peth a wnawn.
Rydym wedi sefydlu cronfa cymunedau cynaliadwy y mae contractwyr sy’n gweithio gyda ni’n cyfrannu ati, mae’r arian yma’n helpu i gefnogi ein prosiect ysgolion, FACE, ac yn ein galluogi i gefnogi ein hysgolion partner.
Gydag arian a roddwyd gan Morris’s of Usk ac amser a roddwyd gan ein staff, llwyddon ni i gefnogi prosiect yn Ysgol Uwchradd Cwmbrân a gwella lles y staff.
Cafodd y prosiect rodd o sgriniau mawr ar gyfer y ffreutur, i helpu gyda chadw pellter cymdeithasol ac arferion diogel yn ystod amser cinio. Fe wnaethom ni hefyd addurno ystafell y staff – adeiladu wal, rhoi unedau storio i gefnogi gweithio hyblyg gan staff a soffas sy’n edrych allan at yr ardal allanol wedi ei dacluso, gyda ramp ar gyfer mynediad. Oherwydd rheolau cadw pellter cymdeithasol, roedd staff yn ei chael yn anodd cael hyd i rywle i fynd ar adeg egwyl ond mae’r gwaith yn golygu bod yna le ychwanegol iddyn nhw ei ddefnyddio, gan wella lles y staff.
Gan siarad am y gwaith, dywedodd y Pennaeth, Jason Hicks, “Diolch i Gartrefi Melin Homes a Morris’s of Usk am y gwaith COVID-19 ar ein hystafell staff. Mae ein staff yn gwerthfawrogi’n wirioneddol eich ymdrechion i gyd.”
Dywedodd Tom Morris o Morris’s of Usk, a helpodd i ariannu’r gwaith:
“Fel cwmni lleol, mae cefnogi cymunedau’n bwysig iawn i ni. Mae gweld y lluniau’r a’r adborth o Ysgol Uwchradd Cwmbrân yn dangos pa mor bwysig yw prosiectau fel hyn. Rydym yn edrych ymlaen at barhau â’n gwaith gyda Melin a helpu gyda rhagor i fentrau.”
Dywedodd Mark Davies, Rheolwr Cynnal a Chadw Melin:
“Mae rhoi amser i’r tîm gefnogi prosiect mor bwysig yn ein cymunedau lleol yn bwysig i Melin. Hoffwn ddiolch yn bersonol i Lance Thomas, Mark Garland, Jamie Coburn, Emily Spruce a Steven Jones am eu gwaith caled.”
Gyda’n gilydd gallwn lwyddo. Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am ein rhaglen ysgolion, danfonwch e-bost at schools@melinhomes.co.uk