Cyngor ar ynni a mesuryddion deallus
Mae ymchwil a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2016 gan National Energy Action, Cymru yn dangos bod tua 29,000 o bobl dal i fod yn byw mewn tlodi, er gwaethaf y ffaith bod aelwydydd tlawd o ran tanwydd wedi gostwng 6% yn y pedair blynedd diwethaf.
Ysgrifennwyd gan Fiona
—10 Tach, 2016
Mae ymchwil a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2016 gan National Energy Action, Cymru yn dangos bod tua 29,000 o bobl dal i fod yn byw mewn tlodi, er gwaethaf y ffaith bod aelwydydd tlawd o ran tanwydd wedi gostwng 6% yn y pedair blynedd diwethaf.
Os ydych yn gwario 10% neu fwy o'ch incwm ar gostau ynni rydych yn cael eich ystyried yn dlawd o ran tanwydd. Os ydych yn gwario 20% neu fwy o'ch incwm, yna rydych yn byw mewn tlodi tanwydd difrifol.
Rydym wedi sefydlu tîm cyngor ar ynni a fydd yn gallu eich helpu i weld a ydych ar y tariff gorau ar gyfer eich nwy a thrydan, gallant ddangos rhai ffyrdd hawdd i chi arbed ynni ac arian o amgylch y cartref.
Un ffordd o gadw gwell rheolaeth ar filiau ynni a faint o ynni rydych yn ei ddefnyddio yw drwy osod mesurydd deallus. Mesuryddion deallus yw'r genhedlaeth newydd o fesuryddion nwy a thrydan, fydd yn disodli'r mesuryddion traddodiadol yn ein cartrefi.
Dyma’r manteision mesurydd deallus:
- Bydd biliau’n gywir nid yn cael eu hamcangyfrif;
- Bydd darlleniadau rheolaidd yn cael eu rhannu’n uniongyrchol gyda’ch cyflenwr ynni, sy’n golygu na fydd mwy o ddarlleniadau â llaw;
- Byddwch yn derbyn dangosydd i’ch cartref, sy’n dangos yn union i chi faint o ynni yr ydych yn ei ddefnyddio, wrth i chi ei ddefnyddio, a’r hyn y mae’n ei gostio mewn punnoedd a cheiniogau.
Beth am wylio fideo Gaz a Leccy i gadw rheolaeth ar eich ynni.
Gallwch lawr lwytho adnoddau am ddim yma i helpu i hyrwyddo a dosbarthu’r mesurydd deallus.
Os hoffech i ymgynghorydd ynni ymweld â chi, cysylltwch â ni er mwyn i ni drefnu ymweliad.