Cynllun Peilot Digidol yn Gyntaf yn cyrraedd rhestr fer Gwobr TPAS Cymru
Mae ein Cynllun Peilot Digidol yn Gyntaf wedi cyrraedd rhestr fer yng nghategori Cyfranogiad Digidol Gwobrau Cyfranogiad TPAS Cymru eleni.
Ysgrifennwyd gan Marcus
—08 Meh, 2016
Mae ein Cynllun Peilot Digidol yn Gyntaf wedi cyrraedd rhestr fer yng nghategori Cyfranogiad Digidol Gwobrau Cyfranogiad TPAS Cymru eleni.
Mae menter Digidol yn Gyntaf Melin wedi ymgysylltu 50 o drigolion i brofi ein gwasanaethau ar-lein am dri mis. Am eu cyfranogiad, fe wnaethom rhoi iddynt dabledi Android cost isel a chynnig cymorth cynhwysiant digidol iddynt. Roedd gennym ddau ddiben: i gynyddu cynhwysiant digidol trigolion ac i'w cynnwys hwy yn y camau i ail-ddylunio ein gwasanaethau ar-lein.
Yn ystod y prosiect, roedd ... o drigolion yn fwy actif yn ddigidol, hyd yn oed os oedd eisoes ganddynt ddyfeisiau eraill. Rydym hefyd wedi casglu adborth gwerthfawr ynglŷn â’r ffordd y dylai ein gwasanaethau weithio, a heriwyd nifer o’n tybiaethau ar hyd y ffordd.
Bydd y seremoni wobrwyo yn cael ei chynnal yn Llandudno ar 14 Gorffennaf.