Cyril yn dathlu pen-blwydd yn 100 oed
Cyril yn dathlu pen-blwydd yn 100 oed
Ysgrifennwyd gan Sam
—25 Chwef, 2020
Mae Cyril Taylor o Gwmbrân wedi bod yn breswylydd Melin am 26 o flynyddoedd ac yn ffan o dîm Sir Casnewydd ers pan roedd yn 11.
Galwodd Prif Weithredwr Melin, Paula Kennedy a chyn chwaraewyr y tîm Norman Parcelle a John Relish i weld Mr Taylor i roi tocynnau iddo fel eu gwestai ar gyfer gêm Sir Casnewydd yn erbyn Dinas Bradford ar 22ain Chwefror.
Roedd Mr Taylor wrth ei fodd yn derbyn y tocynnau a phêl droed wedi ei llofnodi, gan ddweud “Dyma’r peth gorau!”
Aeth Cyril i’w gêm gyntaf ym Mharc Somerton ym 1932 gyda’i ffrind. Gofynnodd y cyn chwaraewr a rheolwr John Relish iddo ‘ble’r oedd yn arfer eistedd, ai wrth y gôl yn y stand? ‘
Atebodd Cyril; “O, roeddem yn arfer eistedd ar ben y toiledau i wylio.”
Yn un o chwech o bant, ganwyd Cyril yn fuan ar ôl i’r Rhyfel Byd Cyntaf ddod i ben ac aeth i’r ysgol ym Mhont-y-moel. Priododd ym 1944 ac mae ganddo un ferch.
Mae Mr Taylor yn dal i fyw’n annibynnol ac yn cerdded i gynllun gofal ychwanegol Melin, Tŷ George Lansbury, unwaith yr wythnos i gael gêm o bingo. Mae’n cerdded drosodd i Bontnewydd i dŷ ei ferch hefyd bob dydd Sul i gael cinio.
Pan ofynnwyd iddo beth oedd y gyfrinach i fyw yn gant oed, dywedodd; “Rwyf wastad wedi cerdded llawer ac nid wyf yn orlednais ond nid wyf erioed wedi smygu nac yfed llawer.”
“Ond” ychwanegodd “Mae’n debyg mai oherwydd fy mod yn cefnogi Sir Casnewydd.”
Meddai Prif Weithredwr Melin, Paula Kennedy: “Roedd yn bleser pur cyfarfod Mr Taylor. Mae’n ddyn ysbrydoledig. Rwyf mor falch bod ein perthynas wych gyda Sir yn y Gymuned unwaith eto wedi dod â manteision i bobl yn ein cymuned.”