Uno Drwy Ddawns gan Ysgol Gynradd Gatholig Padre Pio
Ysgrifennwyd gan Fiona
—12 Medi, 2022
Gweithiodd ein Tîm Ysgol gydag ysgol gynradd Pont-y-pŵl, ysgol gynradd Gatholig Padre Pio, dros dymor yr haf. Gweithiodd Cydgysylltydd ein hysgol Georgina James, gyda’r clwb ar ôl ysgol yn dysgu dawns stryd i helpu i feithrin eu sgiliau perfformio a’u hyder. Cafodd y grŵp y syniad o annog pobl i ddod at ei gilydd a chroesawu ei gilydd am eu gwahaniaethau ac roeddem yn hoffi’r syniad gymaint, bu i ni helpu i greu fideo gyda gweddill yr ysgol. Gyda help Tom Harper Photography a llawer o ymarfer, rydym yn falch iawn o rannu’r canlyniad. Gobeithio y bydd hyn yn gwneud i chi wenu, gan eich atgoffa i fod yn garedig bob amser, a dawnsio!
Uno Drwy Ddawns gan Ysgol Gynradd Gatholig Padre Pio
Diolch i Gartrefi Melin am eich cymorth, arbenigrwydd a’r mwynhad rydych wedi ei roi i’n plant yn ysgol Padre Pio. Gan edrych ymlaen at ein prosiect nesaf gyda’n gilydd a datblygu ein partneriaeth gyda chi.