Dweud eich dweud
Mae gwasanaethau cyhoeddus Torfaen a Sir Fynwy am glywed each barn.
Ysgrifennwyd gan Sam
—06 Medi, 2016
Rydym yn cefnogi'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus sydd wedi ei ffurfio o'r newydd yn Nhorfaen. Mae'r Bwrdd yn awyddus i siarad â chymaint o bobl â phosibl, sy'n byw a gweithio yn Nhorfaen, a hynny ynglŷn â lles.
Maent am wybod beth sy'n dda am eich cymuned a sut hoffech weld eich cymuned yn y dyfodol.
Dyma eich cyfle i helpu i lunio'r ffordd y mae gwasanaethau cyhoeddus yn cynllunio ac yn gweithio gyda'i gilydd. Mae gan y bwrdd ddigon o ystadegau a data ond mae clywed yr hyn sydd gennych i'w ddweud yn bwysig i wneud synnwyr o'r hyn y mae'r wybodaeth hon yn ei ddweud wrthym.
Rydym i gyd am werth da am arian o'n gwasanaethau cyhoeddus, ac mae hyn yn cael ei wneud orau pan fyddwn yn gweithio gyda'n gilydd. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth rydych yn ei ddweud wrthym, i'n helpu i asesu lles Torfaen. Bydd yr asesiad hwn wedyn yn helpu'r bwrdd gwasanaethau cyhoeddus i ddatblygu cynllun lles ar gyfer Torfaen - y pethau sy'n cael eu gwneud orau wrth weithio gyda'n gilydd a gyda chi.
Mae gwella lles yn nod tymor hir sydd gan Lywodraeth Cymru a phob corff cyhoeddus yng Nghymru. Bydd yn galw arnom i ymateb i heriau fel tlodi, poblogaeth sy'n heneiddio, anghydraddoldebau iechyd a newid yn yr hinsawdd. Bydd cenedlaethau'r dyfodol o bobl ifanc, oedolion a phobl hŷn yn wynebu byd gwahanol i'r un sydd gennym yn awr - felly bydd yr asesiad a'r cynllun hwn yn edrych ar sut y mae angen i ni wneud pethau'n wahanol er mwyn gwneud pethau'n well yn y dyfodol.
Bydd yr arolwg hwn yn cau ganol nos ar 24 Hydref
* Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Torfaen yn cynnwys Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Adnoddau Naturiol Cymru, Heddlu Gwent, Heddlu Gwent a'r Comisiwn Troseddu, Gwasanaeth Prawf Cymru, Cwmni Ailsefydlu Cymunedol Cymru, Cynghrair Gwirfoddol Torfaen a chynrychiolaeth o blith Gweinidogol Llywodraeth Cymru. Cefnogir y Bwrdd gan wasanaethau cyhoeddus lleol eraill megis Ymddiriedolaeth Hamdden Torfaen, Cynghorau Tref a Chymuned, Tai Bron Afon, Cartrefi Melin ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Os ydych yn byw yn Sir Fynwy gallwch hefyd ddweud eich dweud. Dyma sut;
- Trwy Monmouthshire Made Open
- Arolwg Ar lein
- Codi cerdyn post o’ch Hwb lleol
- Dod i’n gweld yn Sioe Brynbuga ar ddydd Sadwrn 13 Medi!
- Neu gadw llygad amdanom ledled y sir yn ystod Medi a Hydref.
Os hoffech ein helpu ni gyda'r broses ymgysylltu gallech:
- Wirfoddoli i fynd allan i gymunedau gydag adnoddau Ein Sir Fynwy - sgwrsio â phobl am y pethau sydd o bwys iddynt hwy
- Dweud wrthym am y digwyddiadau yr ydych yn eu mynychu dros y misoedd nesaf - allech chi fynd ag adnoddau Ein Sir Fynwy gyda chi?
- Rhannu gwybodaeth gyda’ch teulu, ffrindiau neu unrhyw grwpiau yr ydych yn eu mynychu.
Os hoffech gymryd rhan neu os oes gennych unrhyw gwestiynau a fyddech cystal â chysylltu â Rhian Cook, Swyddog Cyfathrebu ac Ymgysylltu.
Arolwg Eich Casnewydd 2016