Diolch 100 o Leisiau
Mae ein grŵp trigolion, 100 o Leisiau, wedi cyfrannu £3,000 i’n galluogi ni i gefnogi trigolion sy’n cael anhawster i fwydo eu hunain a’u teuluoedd. Ers 1af Ebrill eleni rydym wedi rhoi £1,650 mewn cymorth ariannol ar gyfer tlodi bwyd. Yr amser hon y llynedd dim ond £80 oedd y ffigwr yma – sy’n dangos pa mor bwysig yw’r gwasanaeth hwn i’n trigolion.
Ysgrifennwyd gan Fiona
—29 Ebr, 2020
Mae ein grŵp trigolion, 100 o Leisiau, wedi cyfrannu £3,000 i’n galluogi ni i gefnogi trigolion sy’n cael anhawster i fwydo eu hunain a’u teuluoedd. Ers 1af Ebrill eleni rydym wedi rhoi £1,650 mewn cymorth ariannol ar gyfer tlodi bwyd. Yr amser hon y llynedd dim ond £80 oedd y ffigwr yma – sy’n dangos pa mor bwysig yw’r gwasanaeth hwn i’n trigolion.
Mae’r gefnogaeth gan 100 o Leisiau yn hynod ar adeg pan rydym yn gweld anghenion ein trigolion yn cynyddu a bydd angen ein help a’n cymorth fwy nag erioed nawr.
Dywedodd cadeirydd 100 o Leisiau, Natalie, wrthym “Mae’n beth bach o ystyried y darlun mwy. Parhewch gyda’r gwaith da y mae eich tîm (Incwm a Chynhwysiant) yn ei wneud, mae’n wych!”
Mae rhai o’r straeon gan ein trigolion yn torri calon. Mae’r tlodi a’r anawsterau maent yn eu wynebu yn anodd eu credu. Mewn rhai achosion maent yn gorfod aros am chwe wythnos i’w cais am fudd-daliadau fynd yn fyw, ac i daliadau gael eu gwneud. Nid yw banciau bwyd yn gweithredu fel y maent fel arfer ac mae rhai hyd yn oed wedi cau. Heb gyfraniad 100 o Leisiau byddai rhai o’n trigolion yn mynd heb fwyd.
Dyma rai o’r straeon y mae ein trigolion wedi eu rhannu.
“Roeddwn yn torri cynfasau i fyny i’w defnyddio fel eitemau mislif.”
“Nid oedd gennym unrhyw wres ac roeddem yn gorfod eistedd yn y cartref yn ein cotiau.”
“Roedd yn rhaid i mhlentyn aros tan y diwrnod canlynol i fwyta yng nghlwb brecwast yr ysgol.”
“Ni allwn fwyta am ddau ddiwrnod gan ei bod yn hanner tymor ac nid oedd gennym fwyd.”
“Fel myfyriwr, roedd y pwysau oherwydd benthyciadau myfyriwr wedi gwneud i mi ystyried lladd fy hun.”
Diolch i 100 o Leisiau, bydd eich cyfraniad yn gwneud gwahaniaeth i gymaint o bobl.
Rydym yma i’ch helpu chi hefyd os ydych mewn trafferthion. Cysylltwch â’n tîm heddiw; anfonwch neges atom yma, ebostiwch ni yn moneyadvice@melinhomes.co.uk, ffoniwch ni ar 01495 745910 neu defnyddiwch y cyfleustra sgwrsio ar ein gwefan.
Peidiwch â dioddef yn dawel; mae gan ein cynghorwyr gyfoeth o brofiad i’ch helpu.