Diwrnod Mynediad i'r Anabl
Rydym yn cynnal digwyddiad dydd Gwener yma ar gyfer Diwrnod Mynediad i'r Anabl. Yn ein cynllun gofal ychwanegol, Tŷ George Lansbury, byddwn yn ymuno â thrigolion, yn ogystal â staff o Tai Charter a Chartrefi Dinas Casnewydd, lle bydd cyfle i ni drafod materion anabledd sy'n effeithio ar ein trigolion a’n cymunedau.
Ysgrifennwyd gan Valentino
—08 Maw, 2017
Gyda Gofal a Thrwsio a Chludiant Cymunedol Torfaen hefyd yn bresennol, mae'r digwyddiad hwn yn gyfle i drigolion a gwasanaethau cymunedol i ddod ynghyd i drafod sut y gallwn wella mynediad.
Mae'r digwyddiad hefyd yn rhoi cyfle i ni rannu straeon am ein profiadau gydag anabledd, a dysgu mwy am sut y gallwn helpu ein gilydd i gael y gorau allan o'n gwasanaethau cymorth lleol. Gyda lluniaeth, ac adloniant gan gôr Zing, sef côr staff Melin ei hun, mae'r bore'n argoeli i fod yn llawn sgwrsio ysbrydoledig.
Noddir Diwrnod Mynediad i’r Anabl gan Euan’s Guide safle rhestru ac adolygu sy’n helpu pobl anabl, yn ogystal a’u teuluoedd a’u ffrindiau i ddod o hyd i leoliadau sy’n hygyrch. Eglura Kiki MacDonald, Cyd-sylfaenydd Euan's Guide: "Cawsom ein hysbrydoli gan y syniad o gynnal Diwrnod Mynediad i’r Anabl a’r potensial iddo gynyddu nifer y sgyrsiau rhwng lleoliadau a phobl anabl, yn ogystal â chodi proffil mynediad i’r anabl. Roeddem wrth ein bodd â’r gefnogaeth gan nifer o leoliadau, mudiadau a busnesau a gymerodd rhan, yn enwedig eu hawydd i wella’u hygyrchedd eu hunain a chael mwy o adborth gan bobl anabl.”
Dysgwch mwy am Ddiwrnod Mynediad i ‘r Anabl ar eu gwefan.