Diwrnod Rhwng y Cenedlaethau
Daeth grŵp o drigolion Melin o 11 -94 oed i bontio’r agendor mewn oedran gyda diwrnod ‘Rhwng y Cenedlaethau’.
Ysgrifennwyd gan Sam
—04 Hyd, 2017
Ymwelodd gwirfoddolwyr o fforwm ieuenctid y gymdeithas tai, The Volume, â phobl hŷn yn Llys Ebwy yng Nglyn Ebwy i weld sut roedd pobl arfer treulio’u hamser sbâr a nodi Diwrnod Pobl Hŷn (Hydref 1af).
Roedd y chwaraewyr o oed 11 at 94 a mwynhaodd pawb wrth chwarae gemau cardiau traddodiadol, bowls dan do a Jenga, yn ogystal â chael tro ar gemau Wii Sports.
Dywedodd Rheolwr y Cynllun Cysgodol, Liz Hughes: “Roedd yn ddigwyddiad gwych a mwynhaodd pawb yn fawr. Dywedodd un o’n trigolion mai dyma’r bore gorau iddi gael ers amser maith.”
Mae Callum Chapman, oed 12 yn wirfoddolwr gyda The Volume ac mae’n mynychu cyfarfodydd rheolaidd yn y gymdeithas tai gyda phobl ifanc eraill i roi barn a helpu ffurfio’r gwasanaethau mae Melin yn darparu. Dywedodd: “Cawsom ni amser gwych yn cwrdd â’r trigolion hŷn. Dysgodd un o’r dynion dric i fi gyda chardiau a dydw i ddim wedi stopio dangos y tric i bobl.”
Dywedodd Prif Weithredwr Cartrefi Melin, Paula Kennedy: “Mewn cymdeithas sy’n gynyddol ranedig mae manteision pontio’r agendor rhwng y cenedlaethau yn allweddol i greu cymunedau mwy cydlynol. Rydym am i bawb fyw bywyd gwell ar ôl cyrraedd oedran hŷn - un sy’n bodloni pobl hŷn ac yn cyfoethogi bywydau pobl iau. Mae digwyddiadau fel y diwrnod yma’n rhoi cyfle i ni symud rhwystrau a mynd i’r afael ag unigrwydd.”