Dwr Cymru
Mae Dŵr Cymru Welsh Water yn hyrwyddo ei dariff HelpU, sydd wedi ei anelu at aelwydydd ar incwm is. Rydym yn annog preswylwyr ag incwm aelwyd blynyddol o £15,000 neu lai i ystyried newid i dariff HelpU er mwyn elwa ar filiau is.
Ysgrifennwyd gan Marcus
—09 Maw, 2016
Gallai cymaint â 190,000 o drigolion yng Nghymru fod yn gymwys i dderbyn arbedion o hyd at £250 ar eu biliau dŵr ac mae Dŵr Cymru Welsh Water yno i'ch cefnogi i newid tariff.
Os ydych yn cael cymorth drwy'r cynllun HelpU, bydd cap yn cael ei rhoi ar eich bil dŵr. Mae hyn yn golygu na fyddwch yn talu mwy na swm penodol ar gyfer y flwyddyn.
Gall Tîm Cyngor Ariannol Melin eich helpu i wneud cais - gallwch roi galwad iddynt ar 01495 745910 neu cliciwch yma i anfon e-bost atynt.
Gallwch hefyd wneud cais am HelpU drwy lenwi ffurflen gais ar-lein ar wefan Dwr Cymru. Bydd angen i chi ddangos tystiolaeth eich bod yn gymwys, fel slip cyflog neu gopi o ddyfarniad budd-dal.