Eich Cyfrif Melin
Mae gennym ni ffordd syml a hawdd i ofyn am waith atgyweirio a thalu rhent – gyda’ch cyfrif Melin ar-lein.
Ysgrifennwyd gan Marcus
—02 Rhag, 2016
Y cwbl sydd angen i chi wneud yw cofrestru ar y Porth Trigolion. Dim ond munud sydd angen; dilynwch y tri cham syml yma:
- Ewch i www.melinhomes.co.uk a dilynwch y ddolen i’r Porth Trigolion
- Teipiwch eich cyfeirnod tenantiaeth a’ch cyfeiriad e-bost i gofrestru
- Dechreuwch reoli eich tenantiaeth ar-lein!
Mae eich cyfeirnod tenantiaeth ar eich cytundeb tenantiaeth. Os na allwch gael hyd i’ch cyfeirnod, cysylltwch â ni ar 01495 745910.
Mae eich cyfrif ar-lein yn ffordd gyfleus i weld amrywiaeth o bethau yn ymwneud a’ch tenantiaeth, o atgyweiriadau at wybodaeth gyfredol am eich cyfrif rhent.
Dyma rhai o’r pethau y gallwch wneud trwy eich cyfrif cyn gynted ag y byddwch wedi cofrestru:
- Gweld manylion eich tenantiaeth
- Gweld a phrintio’ch datganiad rhent
- Talu rhent
- Gweld hanes atgyweiriadau
- Gofyn am waith atgyweiriad
- Newid eich manylion cyswllt
Ymunwch nawr i gael y manteision a’r gwasanaethau sydd ar gael ar-lein.