Ein Gwasanaeth Cynnal a Chadw
Mae ein gwasanaeth Cynnal a Chadw yn y sefyllfa orau erioed, er gwaethaf y pandemig presennol. Mae’r tîm wedi llwyddo i adolygu dulliau’r gwasanaeth gan ganolbwyntio’n bennaf ar:
Ysgrifennwyd gan Fiona
—02 Maw, 2021
Mae ein gwasanaeth Cynnal a Chadw yn y sefyllfa orau erioed, er gwaethaf y pandemig presennol.
Mae’r tîm wedi llwyddo i adolygu dulliau’r gwasanaeth gan ganolbwyntio’n bennaf ar:
- Cynhyrchedd
- Gwella gweithdrefnau a phrosesau
- Darparu hyfforddiant
- Newid ymddygiad
Mae hyn wedi golygu ein bod yn cwblhau mwy o dasgau, mewn amser cyflymach. Rydyn ni'n wirioneddol falch o'r tîm a'r cyflawniadau maen nhw wedi'u gwneud.
Edrychwch ar ein ffigurau isod i weld sut mae’r tîm wedi gwella…
Rydym wedi cynyddu atgyweiriadau cyffredin a gwblhawyd ar darged o 60% ym Mehefin/Gorffennaf 2019 i 93% ym mis Rhagfyr 2020 (cynnydd o 33%)
Gostyngiad yn yr amser a gymerir ar gyfer atgyweiriadau cyffredin o 39.7 diwrnod ym mis Gorffennaf 2019 i 12.9 diwrnod ym mis Rhagfyr 2020 (gostyngiad o 68%)
Gostyngiad yn yr amser a gymerir i gwblhau atgyweiriadau cyffredin o 43 diwrnod ym mis Gorffennaf 2019 i 10.2 diwrnod ym mis Rhagfyr 2020 (gostyngiad o dros 77%)
Gostyngiad yn yr amser a gymerir ar gyfer atgyweiriadau cynnal a chadw cyffredin o 54.7 diwrnod ym mis Gorffennaf 2019 i 13.1 diwrnod ym mis Rhagfyr 2020 (gostyngiad o dros 76%)
Gostyngiad yn yr amser a gymerir ar gyfer atgyweiriadau plymio a nwy cyffredin o 19 diwrnod ym mis Gorffennaf 2019 i 11 diwrnod ym mis Rhagfyr 2020 (gostyngiad o dros 41%)
Cwblhaodd ein timau tua 41 yn fwy o atgyweiriadau brys, cyffredin, pwysig ac wedi'u cynllunio, yn chwarter pedwar 2020 nag a gwblhawyd yn chwarter dau 2019.
Ac
Fe wnaeth ein timau Cynnal a Chadw gwblhau dros 7% yn fwy o atgyweiriadau yn 2020, nag a gwblhawyd yn 2018 a 4% yn unig yn llai o atgyweiriadau nag a gwblhawyd yn 2019, er gwaethaf cyfyngiadau 2020.
Llwyddwyd i ostwng nifer yr atgyweiriadau byw yn y system 44% rhwng Mai 2019 a Rhagfyr 2020, a 4% yn unig yn llai o atgyweiriadau nag a gwblhawyd yn 2019, er gwaethaf cyfyngiadau 2020.