Byw’n annibynnol – bywyd annibynnol
Rydym wedi siarad gyda Dan o’r Fenni am sut brofiad yw symud i un o’n cynlluniau gwarchod a’r cyfle sydd yno i fyw’n annibynnol mewn amgylchedd cymdeithasol a chysylltu gyda phobl.
Ysgrifennwyd gan Sam
—16 Awst, 2022
Mae newid sut rydym yn byw wrth i ni fynd yn hŷn yn gallu arwain at benderfyniadau mawr. Efallai eich bod yn penderfynu ei bod yn amser symud i rywle llai, neu fod yn rhydd rhag costau trwsio cynyddol yr hen gartref teuluol. Efallai eich bod eisiau rhywle ychydig yn haws i’w drin, lle i allu cloi’r drws a gadael am ambell benwythnos i ffwrdd gyda ffrindiau a theulu, neu efallai eich bod eisiau’r sicrwydd o wybod bod yna ychydig mwy o help wrth law os byddwch ei angen.
Mae Dan wedi symud yn ddiweddar i un o’n cynlluniau byw’n annibynnol ac ni allai fod yn hapusach. Mae’n dweud ei fod wedi sylweddoli ei fod yn unig yn ei le blaenorol. Mae Dan yn caru cerddoriaeth ac wrth ddisgrifio lle mae nawr yn Lavender Gardens, ‘os ydych eisiau rhywun, mae wastad rhywun o gwmpas.’
Mae’r fflat yn y cynllun gofal ychwanegol yn rhoi ‘ychydig bach mwy o ryddid’ iddo a’r cyfle i gyfarfod pobl yn niogelwch y lolfa gyffredin gyfforddus a’r gerddi.
Yma, gallwch gael cwmni pan fyddwch yn dewis hynny, a lle pan fyddwch ei eisiau. Mae cyfle i gyfarfod pobl newydd bob amser, ac rwy’n hapus iawn, iawn yma.
Mae Dan yn edrych ymlaen at bobi ar gyfer bore coffi ac ar ôl synnu ei gyd-drigolion gyda’u dalentau cerddorol, mae hefyd yn gobeithio chwarae mwy o gerddoriaeth yn y lolfa.
Wrth i ni adael y lolfa, roedd canu a thapio traed, ac felly rydym yn edrych ymlaen at ddychwelyd. Mae talent yn Lavender Gardens!