Dysgu a sicrwydd gyda Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru
Roedd yn dda gyda ni groesawu criw o Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru i gynllun gwarchodedig Castle Court ym Mrynbuga ar gyfer ymweliad â thrigolion.
Ysgrifennwyd gan Will
—17 Ion, 2024
Trefnwyd yr ymweliad gan reolwr y cynllun, Diane Hughes, er mwyn rhoi cyfle i’r gwasanaeth tân gyfarwyddo ag adeilad Castle Court a rhoi sicrwydd i’r trigolion sy’n byw yno.
Roedd y swyddogion o wasanaeth Tân ac Achub De Cymru mewn hwyliau da yn ystod yr ymweliad ac achubon nhw ar y cyfle i siarad â thrigolion am ddiogelwch tân, dysgu am eu hanghenion am gefnogaeth a gwneud gwiriadau diogelwch fflatiau unigol. Er llawenydd trigolion, rhoddon nhw offer, fel ceblau estyn, am ddim.
Dywedodd Diane: “Roedd trigolion yn falch iawn gyda’r ymweliad ac roedden nhw’n teimlo’n fwy bodlon wedyn.”
Bydd y criw yn dychwelyd i Castle Court i roi larymau clustogau dirgrynol am ddim i drigolion sydd â nam ar y clyw ac na fyddai efallai’n clywed larwm tân cyffredin.