Polisi Cwcis This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.
Tudalen Breifatrwydd

Yn ôl i newyddion

Diogelwch tân yn y cartref

Gall tanau ddechrau mewn unrhyw gartref a gallant beryglu bywydau a'ch cartref yn gyflym. Gall llawer o eitemau cyffredin yn y cartref gynyddu'r risg o dân Pan fyddant yn cael eu camddefnyddio neu eu cynnal a'u cadw'n wael. Ym Melin rydym wedi ymrwymo i helpu preswylwyr i gadw'n ddiogel trwy godi ymwybyddiaeth ynglŷn â’r hyn a all achosi’r risg o dân, a chynnig cyngor syml ac effeithiol am ddiogelwch. Yma, byddwn yn edrych ar rai o'r peryglon tân mwyaf cyffredin yn y cartref a sut i'w rheoli…

Ysgrifennwyd gan Will

07 Tach, 2024

Llaw dal tan

Image courtesty of Christian Allard | Unsplash.com

Peiriannau Sychu Dillad

Un o achosion mwyaf blaenllaw tanau yn y cartref yw'r peiriant sychu dillad. Mae peiriannau sychu dillad yn gyfleus i sychu dillad, ond mae hefyd angen sylw gofalus arnynt i atal tân. Gall tanau ddechrau mewn peiriannau sychu dillad pan fydd lint/fflwff yn cronni ac yn gordwymo, gan flocio cylchrediad aer a chodi’r tymheredd y tu mewn i'r peiriant.

I gadw'ch peiriant sychu dillad yn ddiogel, dylech:

  • Lanhau’r hidlydd bob tro, cyn ei ddefnyddio. Mae lint, sy’n dod o ffibrau bach yn y dillad yn fflamadwy iawn, a gall hidlydd sydd yn llawn fflwff fynd ar dân yn hawdd.
  • Edrych i weld bod yr agorfa i ryddhau’r aer yn glir. Os nad yw’n glir gall gordwymo a chynyddu’r risg o dân.
  • Peidio â gorlwytho’r peiriant. Mae’r modur yn gorfod gweithio’n galetach os ydych yn ei orlwytho. Gall hyn arwain at ordwymo. Mae hefyd yn golygu y gall fod yn ddrutach i redeg y peiriant gan fod dillad yn cymryd llawer mwy o amser i sychu.
  • Diffodd y peiriant pan fyddwch chi’n gadael y tŷ. Mae’n demtasiwn i adael i’r peiriant rhedeg pan fyddwch chi’n mynd allan. Mae'n fwy diogel i'w ddefnyddio pan fyddwch gartref ac yn effro. Gallwch chi sylwi ar unrhyw beryglon tân cyn iddyn nhw ddatblygu.
  • Ystyried gofyn i weithiwr nwyddau gwyn edrych ar y peiriant bob blwyddyn i gadw’r peiriant mewn cyflwr da a rhagweld unrhyw broblemau posibl.

Gofal wrth Goginio

Mae'r gegin yn lleoliad cyffredin arall am danau, yn enwedig coginio heb gadw llygad arno. Gall olewau coginio, brasterau, a hyd yn oed rhai eitemau bwyd fynd ar dân yn hawdd, a gall offer cegin ordwymo neu danio os na chedwir llygad arnynt.

Er mwyn helpu i atal tanau yn y gegin, dylech:

  • Beidio byth â chamu i ffwrdd os ydych chi’n coginio. Os oes rhaid i chi wneud, diffoddwch y stôf neu’r ffwrn.
  • Cadw eitemau fflamadwy i ffwrdd o'r stôf. Gall tywelion sychu llestri, papur a hyd yn oed llenni fynd ar dân os ydych yn eu gadael yn rhy agos at ffynonellau gwres.
  • Bod yn ofalus wrth goginio ag olew. Os oes mwg yn dechrau dod o’r olew, mae’n rhy boeth ac mewn perygl o fynd ar dân. Cynheswch olew yn araf a chadwch gaead yn agos i lethu’r fflamau a bod angen. Dylech bob amser gadw sosbenni poeth gydag olewau ynddynt ymhell o gyrraedd plant.
  • Os oes gennych ddiffoddwr tân neu flanced dân, dysgwch sut i’w defnyddio. Ni ddylech byth daflu dŵr ar dân olew oherwydd gall hyn achosi i'r tân ledaenu a chynyddu'r risg o anaf.

Canhwyllau Tŷ

Gall canhwyllau a fflamau agored greu awyrgylch clyd, ond gallant hefyd achosi risg o dân os nad ydych chi’n cadw llygad arnynt.

Er mwyn atal tân, dylech:

  • Rhoi’r canhwyllau mewn dalwyr cryf ar arwynebau gwastad, ymhell i ffwrdd o lenni, papurau a dodrefn.
  • Peidio byth â gadael canhwyllau heb gadw llygad arnynt. Cadwch nhw allan o gyrraedd plant neu anifeiliaid anwes. Diffoddwch nhw pan fyddwch chi'n gadael yr ystafell neu'n mynd i'r gwely.
  • Dewis canhwyllau LED. Maen nhw’n ddewis diogel heb fflam agored eto’n rhoi’r un naws clyd.

Offer a Ffynonellau Trydan

Pan fyddant yn ddiffygiol neu’n cael eu gorlwytho, gall offer trydanol fod yn un o brif achosion tanau yn y cartref. Gall eitemau fel peiriannau sychu gwallt, teclynnau gwefru ffôn, a thegellau ymddangos yn ddiniwed ond gallant danio neu ordwymo pan fyddwch yn eu camddefnyddio.

I osgoi hyn, mae’n bwysig:

  • Edrych ar gortynnau eich offer trydanol yn rheolaidd rhag ofn eu bod wedi rhaflo; efallai nad yw’r cysylltiad yn dda, neu gall fod arwydd o ddifrod. Gall ceblau neu wifrau sydd wedi'u difrodi siortio a thanio.
  • Cofio osgoi gorlwytho socedi. Gall plygio gormod o ddyfeisiau i un soced arwain at ordwymo. Mae hyn yn cynnwys ceblau estyn.
  • Tynnu plygiau offer bach pan nad ydynt yn cael eu defnyddio, yn enwedig dros nos. Gall cam mor syml leihau’r risg o dân.
  • Defnyddio ceblau estyn o safon, ac osgoi eu defnyddio fel ateb parhaol, gan eu bod yn fwy tueddol o ordwymo.
  • Trefnu prawf PAT (Portable Appliance Testing) blynyddol ar gyfer eich holl offer i sicrhau eu bod yn ddiogel.

Ysmygu

Mae tanau sy'n gysylltiedig ag ysmygu yn berygl sylweddol arall. Gall hyd yn oed gwreichionen fach o sigarét gynnau clustogwaith, dillad gwely, neu unrhyw ddefnyddiau eraill sy’n fflamadwy ac mae’r tanau hyn yn aml yn angheuol am eu bod fel arfer yn dechrau pan fydd pobl yn gorffwys neu’n cysgu.

Os ydych yn ysmygu, dylech ystyried y ffyrdd hyn o leihau'r risg i chi a'ch cartref:

  • Peidio byth ag ysmygu dan do. Lle bo'n bosibl, ysmygwch y tu allan, i ffwrdd o ddrysau a ffenestri. Mae hyn nid yn unig yn fwy diogel o ran atal tân, ond mae’n iachach o lawer i bobl nad ydynt yn ysmygu yn y cartref ac mae’n atal arogl mwg yn eich cartref.
  • Sicrhau bod sigaréts wedi'u diffodd yn gyfan gwbl cyn eu taflu. Arllwyswch ddŵr dros y bonion a’r lludw os ydych yn eu taflu i ffwrdd dan do.
  • Defnyddio llestr llwch sy’n ddwfn a chadarn a’i gadw i ffwrdd o offer fflamadwy. Gwnewch yn siŵr na fydd yn cael ei fwrw drosodd a'i fod ymhell allan o gyrraedd plant.

Gwresogyddion Symudol

Wrth i'r tywydd oeri, mae gwresogyddion symudol yn ffordd boblogaidd o gadw'n gynnes, ond gallant fod yn beryglus os nad ydych yn eu defnyddio’n gywir. Mae gwresogyddion sy'n cael eu gadael yn rhy agos at bethau fflamadwy, neu'r rhai sy'n ddiffygiol, yn aml yn achosi tanau yn ystod y gaeaf.

Cofiwch, nid yw Melin yn caniatáu i chi ddefnyddio gwresogyddion nwy sengl yn ein heiddo am ein bod yn ystyried eu bod yn ormod o risg yn ogystal â pheri risg o wenwyn Carbon Monocsid. Mae defnyddio tanau o’r fath mewn cartref sy’n eiddo i Melin yn mynd yn groes i’ch contract meddiannaeth.

Os ydych chi’n defnyddio gwresogydd trydan, dyma rhai awgrymiadau i’ch helpu i gadw’ch cartref yn ddiogel:

  • Cadw’r gwresogyddion o leiaf un metr i ffwrdd o lenni, dillad gwely a dodrefn. Mae hyn yn sicrhau nad ydynt yn tanio unrhyw beth o'u cwmpas yn ddamweiniol.
  • Diffodd y gwresogyddion wrth adael ystafell neu fynd i'r gwely. Gall hyd yn oed cyfnod byr o ordwymo achosi difrod neu ddechrau tân.
  • Osgoi sychu dillad ar wresogyddion. Mae hwn yn risg difrifol a allai arwain at wreichion neu ordwymo.

Larymau Mwg

Mae larymau mwg sydd wedi'u gosod yn gywir ac sy’n gweithio, yn hollbwysig mewn unrhyw gartref. Maen nhw'n rhoi rhybudd cynnar, ac amser gwerthfawr i chi a'ch teulu ddianc rhag ofn y bydd tân.

Mae Melin yn profi'r larymau mwg a charbon monocsid yn rheolaidd yn ei eiddo, ond yn ogystal â hyn, gallwch chi brofi eich larymau mwg bob mis. Dim ond munud y mae'n ei gymryd i bwyso’r botwm "prawf" a sicrhau ei fod yn gweithio’n iawn.

Ymweliadau Diogelwch Nwy a Thrydan

Cofiwch ein bod yn trefnu gwiriad diogelwch nwy am ddim bob blwyddyn yng nghartrefi preswylwyr Melin. Rydym hefyd yn trefnu archwiliad diogelwch trydanol bob 5 mlynedd (mae hyn yn cynnwys eich larymau mwg) yn eich cartref. Mae'r rhain yn bwysig i'ch cadw chi a'ch cartref yn ddiogel ac os ydych wedi derbyn un o'r apwyntiadau hyn, mae'n bwysig eich bod yn ei gadw. Os oes angen i chi aildrefnu eich ymweliad, cysylltwch â ni cyn gynted â phosibl a gallwn wneud trefniadau eraill.

-

Drwy ddilyn yr awgrymiadau hyn, gallwch leihau'r risg o dân yn eich cartref yn sylweddol. Ym Melin rydym yn annog pob preswylydd i gymryd camau syml i gadw eu hunain a'u teuluoedd yn ddiogel rhag y risg o dân. Cofiwch, gall atal fynd yn bell i sicrhau eich bod yn ddiogel a thawel eich meddwl.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon ynghylch diogelwch tân yn eich cartref, cysylltwch â ni. Rydym yma i helpu drwy roi cyngor, gwybodaeth ac arweiniad i'ch cadw'n ddiogel ac yn gyfforddus gartref.

Yn ôl i newyddion

Straeon eraill efallai yr hoffech eu gweld