Codi arian ar gyfer ein preswylwyr a chefnogi Hosbis Dewi Sant
Mae cefnogi ein preswylwyr yn rhywbeth yr ydym ni’n angerddol iawn amdano yn Melin Homes. Gofynnwyd i'n staff bleidleisio dros bwy yr hoffent godi arian ar eu cyfer eleni. Mae'r pleidleisiau wedi'u gwirio ac rydym ni’n falch o gyhoeddi y bydd staff yn cymryd rhan mewn digwyddiadau a drefnir gan Hosbis Dewi Sant ac yn codi arian ar gyfer ein Cronfa Cymorth i Breswylwyr. Fel hyn rydym ni’n cefnogi'r gymuned ehangach a gwaith gwych Hosbis Dewi Sant wrth godi arian ac ychwanegu at ein Cronfa Cymorth i Breswylwyr - cronfa y gall trigolion ei chyrchu trwy ein Tîm Cyngor Melin.
Lleoliad:
—03 Maw, 2023
Rhwng mis Ebrill 2021 a mis Mawrth 2022, mae 682 o'n haelwydydd Melin wedi elwa o dros £20k mewn talebau archfarchnad a derbyniodd 467 o aelwydydd dros £24k mewn talebau ynni. Drwy staff sy'n cefnogi'r Gronfa Cymorth i Breswylwyr rydym ni’n gallu helpu mwy o bobl yn ein cymunedau Melin.
Ein gwasanaeth Cyngor Melin yw un o'r pethau pwysicaf yr ydym ni’n ei ddarparu i'n preswylwyr — tîm diduedd, cyfeillgar a chyfrinachol o arbenigwyr a all helpu preswylwyr gyda'r heriau y gallent eu hwynebu yn eu bywydau bob dydd.
Gall Cyngor Melin gynorthwyo gyda chyllidebu, budd-daliadau, biliau ynni, gwaith, hyfforddiant, mynd ar-lein a llawer mwy. Rydym ni hefyd yma i'ch helpu i godi'r darnau pan fydd pethau'n mynd o chwith, efallai oherwydd afiechyd, neu ddileu swydd yn y gwaith.
Rydym ni wedi sefydlu grŵp costau byw
Fe wnaeth aelodau staff o dimau ar draws Melin ffurfio grŵp Costau Byw i edrych ar ffyrdd o liniaru effeithiau'r argyfwng presennol i drigolion.
Hyd yn hyn mae’r grŵp;
- Wedi cytuno mai ansicrwydd bwyd a thanwydd yw dwy o'r heriau mwyaf mae ein trigolion yn eu hwynebu ar hyn o bryd, a thrwy ein Tîm Cynghori, byddwn yn parhau i gefnogi preswylwyr drwy ddefnyddio ein banc bwyd a thanwydd ein hunain. Cafwyd cyllid ar gyfer hyn trwy ein rhaglen budd cymunedol, Lleisiau Melin a drwy leihau ein cyllideb digwyddiadau.
- Cafodd £15,000 ei adennill o'r tariff cyflenwi ar baneli solar ffotofoltäig presennol. Mae hyn wedi golygu ein bod yn gallu trwsio rhai nad oeddent yn gweithio'n dda a gwneud i eraill weithredu'n fwy effeithlon fyth. Bydd hyn, yn ei dro, yn cynhyrchu mwy o arian o'r tariff cyflenwi.
- Mae goleuadau LED yn cael eu gosod yn yr ardaloedd cymunedol yn y chwe chynllun cysgodol sy'n weddill, nad oedd ganddynt hynny eisoes. Byddant i gyd wedi'u cwblhau erbyn diwedd mis Mawrth, cyn i brisiau ynni godi eto ym mis Ebrill. Dylai hyn arbed arian i breswylwyr a rhai lesddeiliaid ar eu biliau ynni cymunedol.
- Codwyd £510 trwy ein raffl costau byw a gall staff nawr ddewis cyfrannu eu gwobr Diolch i gefnogi ein Cronfa Cymorth i Breswylwyr.
- Gyda sawl tendr newydd ar y gorwel, byddwn yn trefnu taith o amgylch y cynlluniau cysgodol sy'n dechrau'r mis hwn, ac yna taith o amgylch cynlluniau anghenion cyffredinol ar fws Melin. Bydd hyn yn helpu preswylwyr i ddeall a dweud eu dweud yn ein proses dendro. Bydd rhai o Leisiau Melin yn ymddangos mewn fideo i hysbysebu'r daith.
- Rydym ni wedi creu pwynt rhoi dillad. Bydd yr holl ddillad yn cael eu rhoi i grwpiau cymunedol lleol.
- Cynhaliwyd caffi costau byw ar y cyfryngau cymdeithasol, gan roi cyfle i drigolion ofyn i ni am arian, ynni a chyngor cyflogaeth.
- Cynhaliodd ein tîm Cyngor Melin gyfres o gymorthfeydd cyngor costau byw effeithiol iawn yn ein cynlluniau cysgodol, gan ateb cwestiynau am arian ac ynni preswylwyr a rhoi awgrymiadau iddynt i arbed arian neu gael budd-daliadau a fydd yn helpu.
- Rydym ni wedi cynhyrchu cynllunydd cyllideb a thaflen costau byw i roi gwybod i staff a phreswylwyr pa gymorth sydd ar gael.