Cymuned Garndiffaith yn dod at ei Gilydd i Ddechrau Dathlu’r Jiwbilî Platinwm
Ysgrifennwyd gan Will
—01 Ebr, 2022
Ar ddydd Iau 31 Mawrth, lansiodd gwirfoddolwyr Neuadd y Mileniwm Garndiffaith eu tymor o ddathliadau ar gyfer Jiwbilî Platinwm y Frenhines. Gan weithio gydag ysgolion lleol, cynhaliodd y gymuned seremoni plannu coed yng ngerddi Neuadd y Mileniwm, gyda dwy goeden wedi eu hariannu gan Dîm Cymunedol Melin.
Daeth disgyblion o Ddosbarth 9 Ysgol Gynradd Garnteg a Blwyddyn 5 Ysgol Bryn Onnen draw i roi help llaw (a rhaw!) gyda phlannu’r coed. Er gwaethaf cawod annisgwyl o eira, plannwyd y coed yn llwyddiannus, ac yna cafodd y plant bwffe bwyd parti yn y Neuadd.
Dim ond cychwyn blwyddyn 2022 yw hyn ar gyfer Neuadd y Mileniwm Garndiffaith. Mae’r gwirfoddolwyr yn bwriadu cynnal parti jiwbilî ym mis Mehefin sy’n siŵr o fod yn llwyddiant mawr!
Roedd Helen Seymour, Swyddog Cymunedau Melin, yn falch o allu cefnogi dathliad jiwbilî y gymuned.
Mae gennym berthynas wych gyda’r gymuned yng Ngarndiffaith a’r gwirfoddolwyr yn Neuadd y Mileniwm yn arbennig. Roedd yn bleser gallu ariannu’r ddwy goeden newydd a helpu’r gymuned ddod at ei gilydd i ddathlu’r flwyddyn hanesyddol hon.
“Mae ymroddiad ac angerdd y gwirfoddolwyr yn neuadd y Mileniwm yn ysbrydoledig ac edrych ymlaen at barhau i weithio gyda nhw.”