GOV.UK Verify
Pan fyddwch yn defnyddio gwasanaethau digidol, bydd angen i chi sicrhau bod eich preifatrwydd yn cael ei ddiogelu a bod eich data yn sâff. Mae angen i adrannau’r Llywodraeth wybod mai chi ych chi (a ddim rhywun sy’n cymryd arno), a sicrhau bod eich gwybodaeth yn ddiogel.
Ysgrifennwyd gan Fiona
—20 Hyd, 2017
Cyflwynwyd GOV.UK Verify i ddarparu un lle mewngofnodi diogel ar draws holl Wasanaethau Digidol y Llywodraeth. Dylai gymryd rhyw 15 munud i ddilysu eich hunaniaeth y tro cyntaf y byddwch yn defnyddio GOV.UK Verify. Ar ôl hynny, dylai gymryd ond munud neu ddau i fewngofnodi.
Pan fyddwch yn defnyddio GOV.UK Verify i ddefnyddio gwasanaeth y llywodraeth, rydych yn dewis o restr o gwmnïau a ardystiwyd i ddilysu eich hunaniaeth. Bydd y cwmni rydych yn ei ddewis yn gofyn am rai manylion personol. Byddant yn gwirio’r manylion hynny yn erbyn cofnodion a ddelir gan ddarparwyr ffôn symudol, Swyddfa Basbort EM, y DVAL neu asiantaethau credyd. Nid yw’n effeithio eich sgôr credyd. Bydd y cwmni yna’n dilysu eich hunaniaeth i’r gwasanaeth llywodraeth rydych yn ei ddefnyddio.
Mae defnyddio cwmnïau wedi eu hardystio yn gwneud GOV.UK Verify yn ffordd ddiogelach, symlach a chyflymach o ddefnyddio gwasanaethau’r llywodraeth arlein.
Gwasanaethau’r llywodraeth y medrwch eu defnyddio gyda GOV.UK Verify:
• Gwneud cais am drwydded gweithredu cerbyd, gyda’r Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau (DVSA)
• Adrodd am gyflwr meddygol sy’n effeithio eich gyrru, gyda’r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA)
• Adnewyddu eich trwydded yrru feddygol fyrdymor (DVLA)
• Gwirio eich Treth Incwm ar gyfer y flwyddyn hon, gyda Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC)
• Gwirio eich Pensiwn, gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP)
• Mewngofnodi i’ch cyfrif treth personol (HMRC)
• Gweld neu rannu gwybodaeth trwydded yrru (DVLA)
• Gwneud cais am y Credyd Cynhwysol (DWP)
• Hawlio cais am ddiswyddo ac arian sy’n ddyledus, gyda’r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS)
• Mewngofnodi a ffeilio eich datganiad treth Hunanasesu (HMRC)
• Diweddaru eich manylion taliadau gwledig, gyda’r Adran Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra)
• Helpu ffrindiau neu deulu gyda’u trethi (HMRC)
• Gwirio neu ddiweddaru treth car cwmni (HMRC)
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK