Polisi Cwcis This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.
Tudalen Breifatrwydd

Yn ôl i newyddion

Gwasanaeth ‘cyngor ar ynni’ newydd, rhad ac am ddim i drigolion

Rydym wedi lansio gwasanaeth 'cyngor ar ynni' newydd i drigolion yn dilyn llwyddiant prosiect Cam wrth Gam, Cartrefi Cynnes Llywodraeth Cymru. Llwyddodd y prosiect tlodi tanwydd ymgysylltu'n llwyddiannus â 3,500 o gartrefi ar draws De Cymru.

Ysgrifennwyd gan Valentino

12 Mai, 2016

Trigolion

Rydym wedi lansio gwasanaeth 'cyngor ar ynni' newydd i drigolion yn dilyn llwyddiant prosiect Cam wrth Gam, Cartrefi Cynnes Llywodraeth Cymru. Llwyddodd y prosiect tlodi tanwydd ymgysylltu'n llwyddiannus â 3,500 o gartrefi ar draws De Cymru.

Fe wnaeth y prosiect cymaint o argraff ar Gartrefi Melin, maent wedi cadw'r staff i gyflwyno cyngor ar ynni i drigolion Melin.

Mae trigolion yn gallu cael mynediad i gyngor am ddim ar ynni a derbyn gwiriad iechyd ynni yn y cartref. Mae Mr a Mrs Morris, pâr o Dorfaen sydd wedi ymddeol, eisoes wedi arbed £350 y flwyddyn oddi ar eu biliau tanwydd ar ôl derbyn ymweliad gan y swyddog cyngor ar ynni. Dywedont: "Doedden ni ddim yn sylweddoli gallech arbed cymaint drwy newid darparwyr. Mae'r broses mor syml, byddem yn wirion i beidio. Rydym hefyd wedi cael rhai awgrymiadau gwych ar newidiadau bach y gallwn eu gwneud i arbed arian o amgylch y tŷ."

Dywedodd Mark Gardner, Prif Weithredwr Cartrefi Melin; "gwasanaethau ychwanegol fel y rhain sy'n gwneud i Gartrefi Melin sefyll allan. Ar adeg pan mae teuluoedd yn penderfynu rhwng gwresogi neu fwyta, mae gwasanaethau fel hyn yn bwysicach nag erioed ac rydym yn falch o gael y cyfle i fynd cam ymhellach i helpu".

Os ydych yn un o drigolion Melin a byddech yn hoffi cael cyngor ar ynni cysylltwch â ni ar energy.advice@melinhomes.co.uk neu anfonwch neges destun ar 07781472210 neu ffoniwch 01495 745910.

Yn ôl i newyddion