Gwirfoddolwyr yn derbyn hyfforddiant ar y golwg gan RNIB
Cymerodd gwirfoddolwyr o'n Grŵp Anabledd Panel y Trigolion rhan mewn hyfforddiant colli golwg yn ddiweddar.
Ysgrifennwyd gan Valentino
—19 Ion, 2016
Fe wnaeth gwirfoddolwyr o Grŵp Anabledd Panel y Trigolion ymgynnull yn un o'n cynlluniau cysgodol yng Nghwmbrân yn ddiweddar i ddysgu sut mae'n teimlo i golli eich golwg. Daeth cynrychiolwyr o Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Deillion (RNIB) i ddarparu hyfforddiant ymarferol ar declynnau, a darparu cyngor arbenigol, a dywedodd ein gwirfoddolwyr bod y profiad yn ddiddorol iawn ac yn hynod ddefnyddiol. Dywedodd un gwirfoddolwr "Fe wnaeth yr hyfforddwr o'r Sefydliad egluro'n dda, gan sicrhau bod yr holl wybodaeth yn hawdd ei deall, ac yn wir, fe wnaeth y cyfan oll ein helpu i ddechrau deall pa mor anodd y gall bywyd fod wrth golli golwg." Roedd yr hyfforddiant yn ddefnyddiol i'n Grŵp Anabledd ddysgu mwy am sut y gallwn ddarparu'r gwasanaethau gorau posibl ar gyfer ein trigolion anabl.