Gwiriwch eich atebion!
A wnaethoch chi gymryd rhan yn ein cystadleuaeth cwis diwethaf? Gwiriwch eich atebion yma ... Peidiwch â phoeni os wnaethoch chi fethu'r cwis diwethaf, mae un newydd yn y rhifyn diweddaraf o Melin News, anfonwch eich atebion atom am gyfle i ennill gwerth £25 o dalebau’r stryd fawr.
Ysgrifennwyd gan Valentino
—06 Mai, 2016
Yn y rhifyn diwethaf o Newyddion Melin, roeddem wedi cynnwys cwis a baratowyd gan Bill Fouweather, trigolyn o Gasnewydd. Roedd yr ymateb yn wych, felly da iawn a diolch i bawb a gymerodd ran. Yn anffodus, dim ond un enillydd a ganiateir felly hoffem longyfarch Lisa Roberts o Goetre!
Sut wnaethoch chi? Gwiriwch yr atebion isod:
1. C. Beth yw enw prif ddinas Portiwgal? A. Lisbon
2. C. Pwy ysgrifennodd y nofel Black Beauty? A. Anna Sewell
3. C. Faint o blant oedd gan y Frenhines Victoria? A. Naw
4. C. Beth yw enw ifanc yr ysgyfarnog? A. Lefren
5. C. Pa ddiodydd alcoholig sy’n cael ei greu o bomgranad? A. Grenadine
6. C. O ran y mwyafrif o wobrau Oscar a enillwyd, pa sioe gerdd yw’r mwyaf llwyddiannus erioed? A. West Side Story
7. C. Beth yw enw canol Elton John? A. Hercules
8. C. Ym mha flwyddyn ddaeth Caerdydd yn brif ddinas Cymru? A. 1955
9. C. Pa wlad enillodd y Cwpan Byd Undeb Rygbi cyntaf ym 1987? A. Seland Newydd
10. C. Diddordeb pa gyn Prif Weinidog oedd trefnu blodau? A. Sir Alec Douglas-Home
11. C. Yn Saesneg, llenwch y bylchau a) An ... of larks b) A ... of rhinos? A. a) exaltation b) crash
12. C. Beth yw ail isradd 121? A. 11
13. C. Pwy sydd wedi ymddangos fwyaf (dal y record) ar lwyfan y London Palladium? A. Bruce Forsyth
14. C. Beth oedd enw gwreiddiol gorsaf danddaearol Arsenal? A. Gillespie Road
15. C. Mae Joyeux Noel yn golygu Nadolig Llawen ym mha iaith? A. Ffrangeg
Os wnaethoch chi fethu’r cwis peidiwch â phoeni! Mae un arall gennym yn ein rhifyn newydd o Melin News felly os ydych am wella ar eich sgôr diwethaf neu roi cynnig arni am y tro cyntaf, anfonwch eich atebion atom ac fe allech ennill gwerth £25 o dalebau’r stryd fawr. Gallwch hefyd bostio eich atebion i Melin News Quiz, Ty Felin, Lower Mill Field, Pont-y-pŵl, Torfaen, NP4 OXJ neu yrru e-bost atom. Byddwn yn cyhoeddi enw’r enillydd yn y rhifyn nesaf.