Gwobrau Busnes South Wales Argus
Rydym wedi cyrraedd rhestr fer categori Lle Gorau i Weithio Gwobrau Busnes y South Wales Argus. Rydym wedi ymrwymo'n llwyr i gefnogi ein staff, rydym yn buddsoddi yn ein pobl ac yn creu diwylliant bywiog. Ar hyn o bryd rydym yn rhif 11 ar restr 100 Sefydliad Dielw Gorau i weithio iddynt yn ôl y Sunday Times. Rydym yn gwrando ar ein staff yn barhaus i’w wneud yn lle gwell i weithio ynddo.
Ysgrifennwyd gan Fiona
—17 Hyd, 2019
Rydym wedi ymrwymo'n llwyr i gefnogi ein staff, rydym yn buddsoddi yn ein pobl ac yn creu diwylliant bywiog. Ar hyn o bryd rydym yn rhif 11 ar restr 100 Sefydliad Dielw Gorau i weithio iddynt yn ôl y Sunday Times. Rydym yn gwrando ar ein staff yn barhaus i’w wneud yn lle gwell i weithio ynddo.
Dyma beth sydd gan ein staff i'w ddweud
“Mae gan Melin ethos teuluol go iawn ac rwy’n falch o chwarae fy rhan i’w wneud yn sefydliad llwyddiannus, a dyna ydyw bellach.”
“Mae gan Melin ddiwylliant gwych, pobl wych a gweledigaeth i wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau'r trigolion a'r cymunedau rydyn ni'n eu gwasanaethu.”
Rydym yn angerddol am les corfforol a meddyliol ein staff ac am yr wyth mlynedd diwethaf mae ein menter Zest wedi darparu strafagansa llesiant tîm cyfan, ffrwythau, tylino’r corff, cwnsela drwy hunan-atgyfeirio, gweithio hyblyg a mwy.
Rydym yn gweiddi am gyflawniadau staff trwy ein cylchlythyr wythnosol, tudalen Facebook i’r staff, a sgriniau teledu o amgylch y swyddfeydd. Gall staff enwebu ei gilydd am fynd cam ymhellach trwy ein gwobrau diolch. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae 130 o staff wedi cael eu cydnabod, dros 500 o goed wedi'u plannu a chyflwynwyd 80 o roddion i elusennau. Mae gennym elusen y flwyddyn, ac mae 98% o'n staff yn credu ein bod yn annog gweithgareddau elusennol.