Rydym wedi noddi Gwobrau Chwaraeon y South Wales Argus 2020
Rydym yn ymrwymedig i greu cymunedau ffyniannus, diwylliant gwaith gwych, gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar drigolion, a rhaglen a o ddatblygiadau newydd. Rydym yn ymroi at wrando ac ymgysylltu â thrigolion a’r cymunedau y maen nhw’n byw ynddyn nhw.
Ysgrifennwyd gan Fiona
—23 Medi, 2020
Rydym yn ymrwymedig i greu cymunedau ffyniannus, diwylliant gwaith gwych, gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar drigolion, a rhaglen a o ddatblygiadau newydd. Rydym yn ymroi at wrando ac ymgysylltu â thrigolion a’r cymunedau y maen nhw’n byw ynddyn nhw.
Pan gawson ni’r cyfle i fod yn rhan o Wobrau Chwaraeon y South Wales Argus, 2020, roedden ni’n falch o gael noddi’r Wobr am Glwb Cymunedol y Flwyddyn. Rydym wedi cefnogi’r categori yma dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae’n bwysicach nag erioed nawr cydnabod cyfraniad at gymunedau y mae clybiau’n ei gynnig. Rydym yn gwybod gwerth chwaraeon yn y gymuned, ar ôl bod yn bartneriaid gyda’r Dreigiau a Chlwb Pêl-droed Casnewydd am dros wyth mlynedd.
Dywedodd ein Prif Weithredwr, Paula Kennedy: “Rydym yma i ddarparu cartrefi, ond rydym hefyd yn awyddus i greu cyfleoedd i bobl a chymunedau ffynnu. Yn yr amserau anodd yma i bobl leol, mae angen pwysleisio gwobrau i bobl leol a’u cyfraniad at chwaraeon. Rydym yn edrych ymlaen at y gwobrau ac yn gobeithio y bydd pawb sydd wedi eu henwebu’n dathlu’n rhithiol ar 5ed Tachwedd.”